/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Arholiad mathemateg wedi 'lladd morâl' disgyblion

  • Cyhoeddwyd
ArholiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae CBAC yn mynnu nad oedd yr un cwestiwn yn dibynnu ar wybodaeth o gynnwys oedd wedi'i ddileu o'r cwrs

Mae yna bryder fod rhai cwestiynau mewn arholiad mathemateg Uwch Gyfrannol eleni yn cyfeirio at bynciau oedd wedi eu dileu o'r cwrs.

Mae'r bwrdd arholi CBAC yn gwadu hynny, ond yn ôl disgybl o Sir Ddinbych mae'r profiad o sefyll yr arholiad wedi "lladd morâl" nifer o bobl ifanc.

Dywedodd athro, oedd eisiau aros yn ddienw, wrth BBC Cymru bod tocio wedi bod ar y cynnwys oherwydd y pandemig, a'i fod yn credu mai camgymeriad oedd cynnwys y cwestiynau dan sylw.

Dywed CBAC nad oedd unrhyw gwestiwn yn yr arholiad yn dibynnu ar ddealltwriaeth o gynnwys oedd wedi ei ddileu o'r cwrs ar gyfer 2022.

'Sioc i'r system'

Roedd Elgan o Ddinbych, disgybl 17 oed ym mlwyddyn 12 yn Ysgol Glan Clwyd, yn un o'r rheiny gafodd sioc wrth weld cynnwys y papur arholiad.

"O'n i'n mynd fewn i'r arholiad yn disgwyl cwestiynau penodol o'n i 'di adolygu, wedyn nes i agor y llyfryn a doedd y cwestiwn cyntaf ddim hyd yn oed i fod ar y syllabus," meddai.

"O'dd o'n bach o sioc i'r system. Es i drwy'r papur - o'dd 'na rai cwestiyna' o'n i'n oce efo - ond o'dd y rhan fwyaf o'r pethau yn y prawf bron yn amhosib. Oedd o mor anodd.

"O'i gymharu â phapurau cyn coronafeirws, dwi methu credu'r penderfyniada' sy wedi cael eu gwneud gan CBAC i roi'r papur 'ma i ni."

Elgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elgan yn bryderus a fydd cynnwys annisgwyl mewn arholiadau eraill yn yr wythnosau i ddod

Dywedodd nad ef oedd yr unig un oedd wedi cael problemau gyda'r arholiad - yn ei ysgol ef ac ysgolion cyfagos hefyd.

"Nes i edrych i'r chwith ac i'r dde, ac roedd pawb yn teimlo'r un fath - pawb bron yn anobeithiol," meddai Elgan.

"O'n i 'di siarad efo ysgolion eraill wedyn - Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Bryn Hyfryd - ac roedd yr un consensws yn fanna, bod y prawf yn lot rhy anodd.

"Mae o 'di effeithio morâl fi 'bach yn mynd i'r arholiadau sydd i ddod.

"Mae 'na brawf Ffiseg sydd i ddod, ac mae 'na chunk mawr wedi cael ei gymryd allan o'r syllabus i hwnna - i fod - ond os 'di hynny'n dod fyny yn y prawf does 'na ddim allwn ni 'neud."

Meddwl ar Waith
Meddwl ar Waith

Mae Elgan yn un o garfan fawr o ddisgyblion sy'n sefyll arholiadau uwchradd am y tro cyntaf eleni, wedi iddyn nhw gael eu canslo am y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig.

"Y tro cynta' i fi 'rioed 'neud arholiad, a gweld rhywbeth fel'na, mae o'n g'neud fi feddwl 'i be? i be maen nhw'n ei 'neud o">