/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 6-22 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Sam Parry yn dathlu ei gaisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Prynhawn siomedig oedd hi i Rygbi Caerdydd ar Barc yr Arfau'n erbyn y Gweilch a chreadigrwydd yn brin brynhawn Sadwrn.

Dechrau araf oedd i'r gêm gyda'r sgorfwrdd yn brin o bwyntiau ar yr hanner - 3-0 i Gaerdydd oedd hi bryd hynny.

Ond fe daniodd y Gweilch yn y 40 munud olaf gyda thri chais. Dewi Lake, Rhys Webb a Sam Parry'n croesi'r llinell.

Dim un cais i Gaerdydd brynhawn Sadwrn ac felly eu pwyntiau'n dod o ddwy gic y maswr, Rhys Priestland.

Roedd hi'n fuddugoliaeth sicr i'r tîm o Abertawe wrth iddyn nhw baratoi i herio'r Scarlets wythnos nesaf.

Pynciau cysylltiedig