Ail gartrefi: Posib i dreth cyngor rhai gynyddu 300%
- Cyhoeddwyd

Ar hyn o bryd, mae premiymau wedi'u pennu ar y lefel uchaf y gellir eu codi, sef 100%, ac fe'u talwyd ar fwy na 23,000 o eiddo yng Nghymru eleni
Fe allai rhai perchnogion ail gartrefi yng Nghymru dalu pedair gwaith eu lefel bresennol o'r dreth gyngor o'r flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.
Ar hyn o bryd gall cynghorau godi premiwm ail gartref o hyd at 100% ond bydd hynny'n cynyddu i 300% o fis Ebrill 2023.
Mae'r datblygiad, sy'n rhan o gytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru, yn rhan o ymdrechion i'w gwneud hi'n haws i bobl fforddio cartrefi lle cawsant eu magu.
Mae Gwynedd ac Abertawe eisoes yn codi premiwm o 100%, a bydd Sir Benfro yn gwneud hynny o fis nesaf ymlaen.
Mae gweinidogion yn annog cynghorau i roi'r arian ychwanegol a godwyd i gynyddu nifer y tai fforddiadwy.
Bydd y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer diffinio bod llety hunan-ddarpar yn talu ardrethi busnes yn hytrach na'r dreth gyngor hefyd yn newid o fis Ebrill nesaf.
Ar hyn o bryd, bydd eiddo sydd ar gael i'w osod am o leiaf 140 diwrnod, ac sy'n cael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 diwrnod, yn talu ardrethi yn hytrach na'r dreth gyngor.

Cafodd Capel Bethania ym Mhistyll ei werthu am £257,000 yn ddiweddar, gyda chaniatâd i'w droi'n lety gwyliau
Bydd y newid yn cynyddu'r trothwyon hyn, fel y gall eiddo fod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Dywedodd y llywodraeth y bydd hyn yn ei gwneud hi'n gliriach bod yr eiddo yn llety gwyliau gwirioneddol sy'n gwneud "cyfraniad sylweddol" i'r economi leol.
Cofrestrwyd ychydig o dan 25,000 o ail gartrefi yng Nghymru at ddibenion y dreth gyngor ym mis Ionawr 2021.
Mewn rhai rhannau o'r wlad, yn enwedig ardaloedd arfordirol, maent yn fater cynhennus, gyda phobl yn teimlo eu bod yn eu prisio allan o'r ardal y cawsant eu magu ynddi ac yn bygwth y diwylliant Cymraeg.