/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 19-13 Ulster

  • Cyhoeddwyd
amddiffynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hon oedd pumed fuddugoliaeth mewn saith gêm gynghrair i'r tîm cartref

Roedd ymdrech amddiffynnol glodwiw a 14 pwynt gan Stephen Myler yn ddigon i roi buddugoliaeth i'r Gweilch dros Ulster ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig.

Ymatebodd y Gweilch i gais cosb gynnar Ulster gyda chais Morgan Morris a chic Myler.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi tîm Toby Booth i bedwerydd yn y tabl, tra bod Ulster yn aros yn drydydd.

Profodd deuawd rheng ôl y Gweilch, Morris a Jac Morgan, yn rhagorol yn yr amddiffyn.

Cyfrannodd rhagoriaeth sgrymio, yn enwedig yn yr ail hanner, at bumed fuddugoliaeth mewn saith gêm gynghrair i'r tîm cartref.

Pynciau cysylltiedig