/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 18-14 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cicio cywrain Gareth Anscombe sicrhaodd y fuddugoliaeth i'r GweilchFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cicio cywrain Gareth Anscombe sicrhaodd y fuddugoliaeth i'r Gweilch

Y Gweilch oedd yn fuddugol yn erbyn Rygbi Caerdydd nos Sadwrn mewn gêm oedd wedi'i dominyddu gan gicio cywrain Gareth Anscombe.

Ni sgoriodd y tîm cartref unrhyw geisiadau, ond enillon nhw'r gêm trwy gicio chwe chic gosb.

Sgoriodd asgellwyr Caerdydd, Josh Adams ac Owen Lane cais yr un i Gaerdydd.

Ond fe fanteisiodd y Gweilch ar ddisgyblaeth wael yr ymwelwyr yn rhoi cyfle i Anscombe ddod mewn i'r gêm yn aml i gicio o'r dwylo ac i'r pyst.

Hon oedd ail fuddugoliaeth y Gweilch mewn gêm ddarbi, ar ôl iddyn nhw ennill yn erbyn y Dreigiau ar benwythnos agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ym mis Medi.

Pynciau cysylltiedig