/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pro 14: Leinster 19 - 24 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Josh ThomasFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cais buddugol Josh Thomas (chwith) funudau ar ôl iddo ddod ar y cae fel eilydd, a fe drosodd y tri chais hwyr i'r rhanbarth hefyd

Mae'r Gweilch wedi sicrhau lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf wrth iddyn nhw groesi am dri chais hwyr yn erbyn Leinster.

Mae buddugoliaeth i'r clwb o Gymru yn golygu y byddan nhw'n gorffen yn y trydydd safle yng Nghynhadledd A y Pro14, sy'n golygu eu bod yn sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth Ewropeaidd.

Leinster fu'n rheoli wrth i ddau gais Harry Byrne a Jamie Osborne eu helpu i sicrhau mantais o 19-3 ar ôl 68 munud.

Ond fe roddodd gais Olly Cracknell obaith i'r Gweilch cyn i Owen Watkin a Josh Thomas sicrhau cais yr un hefyd.

Roedd yna ddiweddglo gorfoleddus i'r gêm wrth i'r Gweilch sylweddoli eu bod wedi sicrhau eu lle yn y Cwpan ar gyfer y flwyddyn nesaf, a hynny ar draul Glasgow yng Nghynhadledd A.

Pynciau cysylltiedig