Rheolau Covid-19 'yn drysu pobl sy'n byw ger y ffin'
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwahanol ffordd y mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi taclo'r pandemig coronafeirws wedi arwain at ddryswch i bobl sy'n byw ger y ffin, yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol.
Dywedodd Daniel Kawczynski fod y "farn wahanol rhwng Caerdydd a Llundain" wedi cael ei amlygu yn ystod yr argyfwng.
Ychwanegodd ei fod yn siomedig o fod wedi derbyn llythyr gan un o ASau Ceidwadol Cymru, Craig Williams yn awgrymu nad oedd ei feirniadaeth o'r ffordd roedd Cymru'n cael ei rhedeg yn fuddiol.
Roedd Mr Kawczynski, sy'n cynrychioli etholaeth yn Sir Amwythig, wedi cwestiynu a oedd hi'n bryd i unoliaethwyr ystyried ymgyrchu i gael gwared ar ddatganoli yn y DU.
'Cyfiawnhau ei hun'
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd: "Nes i ysgrifennu un trydariad oedd yn y bôn yn dweud mod i'n bryderus iawn am sut oedd Mr Drakeford, ynng nghanol pandemig cenedlaethol, yn ceisio tanseilio'r prif weinidog [Boris Johnson] yn gyhoeddus ar adeg pan ddylen ni fod yn chwilio am gonsensws cenedlaethol."
Ychwanegodd ei bod hi'n bryd "herio Mr Drakeford a'r cysyniad o Senedd Gymreig yn fwy caled".
"Dwi ddim yn gweld pa reswm sydd gan Craig i fy meirniadu'n gyhoeddus am hynny," meddai, gan gyfeirio at ei gyd-AS Ceidwadol.
"Ydyn ni nawr yn byw mewn cymdeithas ble mae seneddwyr yn cael eu gwahardd rhag siarad am bynciau penodol">