Sul y Mamau: Yn fy mhen v Go iawn
- Cyhoeddwyd

Mae Rhiannon Boyle wedi cynhyrfu at Sul y Mamau - ond a fydd y diwrnod mor sbesial ag y mae wedi ei obeithio?
Mae Rhiannon Boyle yn caru ei phlant a'i theulu gymaint mae'n ysgrifennu amdanyn nhw yn gyson mewn blog, dolen allanol ac ar Instagram, dolen allanol dan y teitl the Daily Boyle. Ond dydi'r freuddwyd o fod yn fam ddim bob amser yn cyd-fynd â'r realiti, fel mae hi'n ei rannu gyda Cymru Fyw ar Sul y Mamau.
Gallai'r diwrnod arbennig fynd un o ddwy ffordd...

Yn fy mhen...
Mae'r plant yn cysgu tan wyth. Ar ddeffro ma' nhw'n sleifio lawr i'r gegin efo Dad i baratoi brecwast o grempogau efo bacwn a maple syrup i mi fwynhau yn y gwely.
Go iawn...
Fydd y bychan 'di deffro am chwech yn deud 'i bod hi "Isho pŵ". Er iddi fod bron yn bump oed fydd hi dal yn mynnu mod i'n sychu 'i phen ôl. Mae hyn yn rhoi fi off fy mrecwast rhywsut.

Yn anffodus, dydi merch Rhiannon ddim wedi cael y memo

Yn fy mhen...
Bydd y plant yn swatio mewn dan y cwrlid ac yn rhoi'r cardiau ciwt i mi maen nhw 'di creu yn ysgol. Bydd Dad yn rhoi tusw o flodau hardd ger fy mron a voucher i gael full body massage mewn rhyw spa drud, moethus yn y ddinas.
Go iawn...
Ma' nhw 'di anghofio'r cardiau yn yr ysgol ac felly ma' nhw 'di ypsetio'n lân. Ma' Dad 'di prynu cerdyn rili rybish i mi o siop gardiau rhad a gan fod 'na 'mond un, ma'r angylion bach yn dadlau am bwy sy'n mynd i roi o yn llaw Mam. Mae Dad 'di prynu mop newydd i mi a bocs o ddisinffectant gan mod i'n "Hoffi Mrs Hinch gymaint dyddia 'ma." Dwi'n gwglo - "Is Mrs Hintch bad for feminism">