/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Chwe Gwlad: Merched Yr Alban 15-17 Merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cais Jade KonkelFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Er dechrau addawol i ferched Yr Alban gyda chais Konkel, daeth merched Cymru i'r brig wedi diweddglo dramatig

Roedd hi'n fuddugoliaeth munud olaf i ferched Cymru oddi cartref yng Nglasgow nos Wener, mewn gêm agos yn erbyn merched Yr Alban.

Dyma'r gêm gyntaf i dîm merched Cymru ei hennill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Er i'r Alban gael dechrau addawol - gyda chais cynnar gan Jade Konkel ac ail gais wrth ei chwt gan Sarah Bonar - llwyddodd Cymru i unioni'r sgôr cyn diwedd yr hanner cyntaf, gyda chais gan Bethan Lewis, a chic gosb a throsiad llwyddiannus gan Robyn Wilkins.

Fodd bynnag, daeth trydydd cais gan Chloe Rollie i'r tîm cartref, ac er bod hi'n edrych yn ddu i'r ymwelwyr, brwydrodd Siwan Lillicrap i sgorio cais arall i Gymru ym munudau ola'r gêm.

Cafodd y cais ei throsi gan Lleucu George, gan sicrhau'r fuddugoliaeth i ferched Cymru.