/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Galw am ffyrdd tecach o feirniadu Cân i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Tlws Cân I GymruFfynhonnell y llun, S4C

Mae angen ffyrdd tecach o feirniadu cystadleuaeth Cân i Gymru er mwyn sicrhau cyfartaledd rhwng nifer y cyfansoddwyr benywaidd a gwrywaidd, yn ôl cyflwynydd radio.

Dim ond un gân yn y rownd derfynol eleni sydd wedi ei chyfansoddi gan ferch, ac mae Bethan Elfyn wedi awgrymu newid fformat beirniadu'r rhaglen.

Awgrymodd Ms Elfyn efallai y byddai modd creu dau gategori, o gyfansoddwyr benywaidd ac un arall o rai gwrywaidd, fel bod niferoedd cyfartal yn cael eu dewis ar gyfer y rhaglen.

Yn ôl S4C, cafodd rhestr fer Cân i Gymru ei dewis gan banel o arbenigwyr (dau ddyn a dwy ddynes) heb wybod pwy oedd y cyfansoddwyr nac ychwaith os mai gwryw neu benyw oedd y cyfansoddwyr.

Mae Cân i Gymru yn dathlu 50 mlynedd ers y rhaglen gyntaf eleni, a bydd naw cystadleuydd yn ceisio am y wobr nos Wener.

O ran y cantorion, pum menyw a phedwar dyn sydd wedi eu dewis i ganu'r cyfansoddiadau.

Erfyl Owen gyda ceidwad y Gân a chyflwynwyr y noson
Disgrifiad o’r llun,

Erfyl Owen oedd enillydd Cân i Gymru 2018

Dywedodd Ms Elfyn wrth raglen Newyddion 9: "Ie, y caneuon gorau sydd 'di mynd trwyddo, ond barn bersonol y beirniaid yw e, felly mae 'na ffordd o ddeud 'oce, allan o'r pool yma o ganeuon gan gyfansoddwyr benywaidd dewiswch bump, ac allan o'r pool yma o gerddoriaeth dewiswch bump arall, ac wedyn ma mae o'n deg yndydi">