/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Eitem Ffermio yn ysbrydoli mam i feichiogi'n llwyddianus

Mae dynes a gollodd bump o fabanod yn y groth wedi diolch i filfeddyg wnaeth ei hysbrydoli i gael triniaeth addas er mwyn beichiogi'n llwyddiannus.

Yn dilyn genedigaeth ei mab cyntaf yn 2011, fe aeth Lowri Jones o Langwm, Sir Conwy, drwy sawl beichiogrwydd aflwyddiannus.

Ym mis Hydref 2014, gwelodd Ms Jones eitem ar raglen Ffermio ar S4C lle'r oedd y milfeddyg Cen Williams yn egluro'r cysylltiad rhwng lefelau thyroid ïodin anghyson a phroblemau beichiogrwydd mewn gwartheg.

Fe wnaeth hynny ei harwain at gael triniaeth wnaeth ei galluogi i roi genedigaeth i'w hail fab, Gwil, yn llwyddiannus.