/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Tara Bethan: 'Yoga'n atgoffa fi bo' fi'n ocê!

  • Cyhoeddwyd

Mae hi ar fin ail-ymddangos ar Pobol y Cwm, mae hi newydd orffen fod yn un o feirniaid Junior Eurovision a bydd hi'n ymddangos cyn hir mewn cyfres ddrama newydd o'r enw 35 Awr.

Ond ar ddiwrnod ei phenblwydd aeth Tara Bethan i sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru am ei phlentyndod prysur ac am ei thatŵ, sydd yn gymorth iddi gadw'i bywyd o dan reolaeth.

Disgrifiad,

Yr actores a chantores sydd hefyd yn athrawes yoga oedd gwestai penblwydd y bore.

line

Dwi 'di bod yn perfformio ers yn blentyn bach a does dim llawer o ryfadd, gan fod perfformio yn rhan o'r ddwy ochr o'r teulu.

Roedd mam fy mam yn tarpeze artist oedd yn teithio gyda 'The Helena Trio' a roedd ei gŵr hi, sef taid, yn ventriloquist.

Roedd Mam yn ddawnswraig a Dad, wel, reslar a pherfformiwr, felly oedd hi'n gwbl naturiol i mi gael gwersi ballet pan o'n ni'n dair... a wnes i gymryd ato fo fel chwadan at ddŵr.

Plentyndod llawn

Felly o sbio nôl, gyda'r gwersi ballet a gwersi canu a dawnsio, dwi'n meddwl efallai bod fi wedi'i gor-wneud hi, achos beth ges i ddim oedd plentyndod arferol.

Rwan, dwi ddim yn difaru bellach, achos be' wnes i yn fy ugeiniau oedd gwneud fyny am hynny, drwy ddim gweithio'n galed iawn a chymryd amser allan i ddarganfod pwy o'n i fel person. Pethau mae plant yn cael yr amser i wneud yn raddol fel arfer, ond doedd gennai ddim amser i wneud pan yn blentyn.

"O f'annwyl dad, am dwt lol..." Ond am beth fyddai Orig yn son?
Disgrifiad o’r llun,

"O f'annwyl dad, am dwt lol..." Ond am beth allai Orig fod yn sôn?

Roedd genna'i yrrwr o'r enw Laurence, a roedd Laurence yn pigo fi fyny o'r ysgol, gyrru fi i'r holl wersi ar ôl ysgol fel gwersi tap, gwersi ballet, gwersi llefaru ac yna i'r dafarn i gael swper efo Mam a Dad.

Dyna lle roedden ni'n bwyta pob nos gan fod Mam a Dad yn brysur hefyd. Doeddan ni byth fel teulu'n eistedd rownd y bwrdd bwyd, neu eistedd o flaen y teli... o'n ni'n mynd, mynd, mynd.

Roedd Dad yn creu sioeau reslo rownd y byd a Mam yn rhedag efo fo... ond Mam oedd y bos go iawn!

Gwarchodwyr gwahanol

Wnes i dyfu fyny efo pobl lliwgar a dweud y lleia'. Wnes i dyfu fyny yn cael fy ngwarchod gefn llwyfan gan bobl fel Giant Haystacks, King Kong Kirk.... a roedd y merched oedd yn reslo, ar y cyfan, yn buteiniaid.

Weithiau dwi'n cwestiynu ethics fy rhieni yn gadael fi gyda phobl lliwgar fel'na, ond fyddai'n ddiolchgar am byth iddyn nhw am y rhyddid!

Ond wnaeth hi gymryd blynyddoedd i mi deimlo bo' fi'n ffitio mewn, achos wnes i dyfu fyny efo oedolion. Do'n i byth o gwmpas plant. O'n i'n unig blentyn, ac yn yr ysgol hyd yn oed o'n i'n wahanol achos fi oedd y ferch 'na oedd wastad i ffwrdd achos o'n i'n gwneud Heno neu'n gwneud Uned 5 a wedyn pan es i'r ysgol uwchradd, ges i 'mwlio oherwydd hynna.

Pan o'n ni'n 13, wnes i Bugsy Malone yn Llundain, ac felly pob yn ail wythnos, fydden ni'n byw efo hogan arall oedd yn y sioe ac yn mynd i'w hysgol hi, ond efo gwaith iaith Gymraeg o Ysgol Glan Clwyd... felly'r rhan fwyaf o'r amser, o'n i yna yn wingio hi!

Ond ar ben hynny, roedd HTV yn gwneud rhaglen ddogfen o mywyd i a dwi'n cofio diwedd hynna oedd genod blwyddyn yn hŷn na fi yn yr ysgol yn flushio mhen lawr y toiled fel rhyw fath o 'Who do you think you are...">