Codi mwy o arian i Blant Mewn Angen yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae Plant Mewn Angen yng Nghymru wedi codi £2.45m wedi diwrnod llawn digwyddiadau ddydd Gwener.
Ar draws y DU codwyd £50.6m.
Ers cychwyn Diwrnod Plant Mewn Angen yn 1980 mae £1bn wedi'i godi.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r swm a godwyd eleni ychydig yn uwch na'r llynedd sef £2.4m.
Ymhlith y gweithgareddau roedd ymgyrch cyflwynydd Radio Cymru Aled Hughes i gael plant Cymru i rannu 'Pawen Lawen' ac erbyn nos Wener yr oedd 30,000 o bawennau bach llawen wedi eu rhannu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2018