/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pro14: Southern Kings 34-41 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
ScarletsFfynhonnell y llun, Gallo Images

Fe sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth a phwynt bonws mewn perfformiad arwrol o dan amgylchiadau anodd yn Ne Affrica.

Dechreuodd y Southern Kings ar dân gan garlamu i fantais o 17-3 wedi 22 munud.

Ond fe daniodd yr ymwelwyr yn yr ail hanner gan sgorio chwe chais i gyd.

Daeth y ceisiadau i'r Scarlets gan y capten Steffan Hughes, Will Boyde, Ioan Nicholas, Werner Kruger, Kieran Hardy a Taylor Davies.

Cychwynnodd y Scarlets y gêm yn erbyn Southern Kings heb 20 o'u chwaraewyr.

Roedd 12 gyda charfan Cymru, chwech wedi'u hanafu, Kieron Fonotia wedi'i wahardd a Blade Thomson heb deithio yn dilyn genedigaeth ei blentyn.