/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 21-35 Northampton

  • Cyhoeddwyd
Dan BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe adawodd Dan Biggar y maes ar yr hanner gydag anaf

Colli'n drwm oedd hanes y Dreigiau yn erbyn Northampton yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener.

Er bod ymgyrch Ewropeaidd y Dreigiau wedi cychwyn yn dda'r wythnos diwethaf, roedd safon y gwrthwynebwyr yn dipyn uwch nos Wener.

Ychydig ddyddiau wedi iddyn nhw drechu Timisoara Saracens o bron i 40 pwynt yn Rwmania, roedd yr esgid ar y droed arall yng Nghasnewydd y tro yma.

Roedd y Dreigiau wedi methu cael pwynt yn yr hanner cyntaf, gyda maswr Cymru, Dan Biggar, yn ddylanwadol i Northampton wrth i'r ymwelwyr fynd 0-21 ar y blaen ar yr egwyl.

Er i'r Dreigiau sgorio deirgwaith yn yr ail hanner, fe sicrhaodd y Seintiau bwynt bonws gan sgorio pum cais eu hunain.

Daeth Biggar ddim allan yn yr ail hanner yn dilyn anaf i'w asennau, a bydd y newyddion yn destun pryder i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, sy'n paratoi ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref ymhen pythefnos.