/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Galw am ddarlun 'cyflawn' o'r arwisgiad yn The Crown

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd Dafydd Iwan a'i ganeuon yn rhan amlwg o'r protestio

Mae un o brotestwyr amlwg yn erbyn yr arwisgiad brenhinol yn 1969 yn gobeithio y bydd ffilmio yng Nghaernarfon ar gyfer cyfres boblogaidd The Crown yn adlewyrchu darlun "cyflawn" o'r cyfnod.

Mae Netflix, cwmni Americanaidd sydd â dros 100 miliwn o danysgrifwyr, wedi cadarnhau y byddan nhw'n ail-greu arwisgiad Tywysog Cymru yng nghastell y dref ym mis Tachwedd.

Roedd Dafydd Iwan a'i ganeuon yn rhan amlwg o'r protestio - ac mae'n bwysig meddai bod y cynhyrchwyr "rŵan yn adlewyrchu'r darlun cyflawn".

Bydd cyfle i bobl leol fod yn rhan o'r ffilmio wrth i Netflix gynnig gwaith fel actorion ychwanegol ar y gyfres.

'Rhan o hanes'

Dywedodd Mr Iwan: "Sgenai ddim llawer o ffydd byddan nhw yn gwneud tegwch â Chymdeithas yr Iaith a'r ymgyrch gwrth-arwisgo.

"Ond mae'n rhan o hanes.

"O safbwynt ymwelwyr i Gymru mae unrhyw beth sy'n rhoi cyhoeddusrwydd i Gastell Caernarfon a golygfeydd Cymru yn help, does 'na ddim pwrpas i ni guddio.

"Mae pob cyhoeddusrwydd yn gyhoeddusrwydd da."

Emrys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Nid pawb sy'n sylweddoli fod "cymaint o wrthwynebiad" yn ôl Emrys Jones

Gyda 50 mlynedd union ers yr arwisgiad y flwyddyn nesaf, mae sawl un yng Nghaernarfon yn cofio'r diwrnod hwnnw 'nôl ar 1 Gorffennaf 1969.

Yn ôl Emrys Jones, sy'n cynnal teithiau cerdded o amgylch y dref, nid pawb sy'n sylweddoli fod "cymaint o wrthwynebiad".

"Roedd pawb yn meddwl fod miloedd ar filoedd yma, ac er bod y maes yn edrych yn llawn, doedd 'na ddim cymaint â hynny, doedd pawb ddim yn frenhinwyr," meddai Mr Jones.

Hon fydd y drydedd gyfres o The Crown, sydd eisoes wedi bod yn ffilmio yng nghymoedd y de eleni.

Prin iawn ydy'r manylion mae Netflix wedi'u datgelu, ond fe fydd y ffilmio yng Nghaernarfon yn dechrau ar 12 Tachwedd.

Mae disgwyl i'r gyfres gael ei darlledu yn y flwyddyn newydd.