/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cerddwr yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ger Bangor

  • Cyhoeddwyd
GwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4244 ger Pentir

Cafodd cerddwr anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad â char ger Bangor nos Sadwrn.

Ychydig cyn 23:00, cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn ymwneud â char VW Golf Plus du a cherddwr ar yr A4244 yn Efail Castell ym Mhentir.

Cafodd y dyn ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Leigh McCann o Uned Plismona'r Ffyrdd: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A4244 cyn y digwyddiad, neu a welodd ddyn yn cerdded yno, i gysylltu â ni."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu a dyfynu'r cyfeirnod W117316.