/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Achub tri llanc o'r môr ger Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
RNLI

Cafodd tri llanc yn eu harddegau eu hachub ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi ar draeth y Rhyl ddydd Sadwrn.

Cafodd y tri eu gweld gan un o swyddogion yr RNLI oedd gerllaw.

Roedden nhw wedi eu hynysu ar gefnen dywod wrth i'r llanw ddod i mewn.

Galwodd y swyddog am gymorth cwch yr RNLI a sicrhau bod y tri'n dychwelyd i'r tir yn ddiogel.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI fod y digwyddiad yn wers bwysig i atgoffa pobl i fod ar eu gwyliadwraeth o'r llanw, ac i ofyn cyngor swyddogion achub, os oes rhai gerllaw.