/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Keira Bevan a Jaz Joyce yn ôl i dîm merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jaz JoyceFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Jaz Joyce yn Awstralia ar gyfer Gemau'r Gymanwlad fis nesaf

Mae'r mewnwr Keira Bevan a'r asgellwr Jaz Joyce yn dychwelyd i dîm merched Cymru i herio'r Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Mae Bevan wedi gwella o anaf i'w ffêr, tra bod Joyce wedi bod yn brysur yn paratoi gyda'r tîm saith-bob-ochr fydd yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad fis nesaf.

Mae Robyn Wilkins a Hannah Jones hefyd yn dod i mewn i'r olwyr ar gyfer y gêm yn erbyn yr Eidalwyr.

Fe wnaeth Cymru drechu'r Alban ar benwythnos cyntaf y gystadleuaeth, cyn colli i Loegr ac Iwerddon.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality ddydd Sul, cyn gêm y dynion.

Presentational grey line

Tîm Cymru

Hannah Jones, Jaz Joyce, Kerin Lake, Robyn Wilkins, Jess Kavanagh-Williams, Elinor Snowsill, Keira Bevan, Caryl Thomas, Carys Philips (c), Amy Evans, Siwan Lillicrap, Mel Clay, Alisha Butchers, Beth Lewis, Sioned Harries.

Eilyddion: Kelsey Jones, Gwenllian Pyrs, Meg York, Natalia John, Nia Elen Davies, Jade Knight, Alecs Donovan, Lisa Neumann.