/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Chwe Gwlad: Buddugoliaeth yng ngêm gynta’r merched

  • Cyhoeddwyd
merched cymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Chwe Gwlad Merched: Cymru 18-17 Yr Alban

Daeth buddugoliaeth i ferched Cymru yn eu gêm gyntaf yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.

Roedd tîm Rowland Phillips ar y blaen o 13-0 ar yr egwyl, ond fe ymladdodd merched Yr Alban yr holl ffordd i'r diwedd, gan ddod o fewn trwch blewyn o ddifetha parti'r Cymry.

Y sgorwyr i Gymru yn yr hanner cyntaf oedd yr asgellwyr Jess Kavanagh-Williams a Hannah Bluck.

Chloe Rollie ddaeth a chais cyntaf yr ymwelwyr, cyn i Lyn Kerin sgorio a chynyddu mantais y tîm cartref.

Daeth Jade Konkel a'r Alban yn ôl i fod mewn pwynt o Gymru, ond llwyddodd y tîm cartref i amddiffyn eu mantais.

Fe fydd Merched Cymru yn chwarae eu gêm nesaf yn y gystadleuaeth yn erbyn Lloegr yn Twickenham Stoop ar 10 Chwefror.