/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Aled Davies yn ymuno â'r Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Aled Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Davies wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd

Bydd Aled Davies yn gadael y Scarlets ac yn ymuno a'r Gweilch y tymor nesa.

Y mewnwr 25 oed yw'r ail i groesi'r Afon Llwchwr yn ddiweddar, gyda'r canolwr Scott Williams yn cyhoeddi'r wythnos diwethaf y byddai'n chwarae ei rygbi yn Stadiwm Liberty y tymor nesaf.

Mae Davies, sy wedi bod gyda'r Scarlets ers naw mlynedd, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd.

"Mae e wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i adael clwb fy ieuenctid lle rwyf wedi cael naw mlynedd gwych," meddai.

"Rwy'n credu y bydd dull y Gweilch yn gweddu i'm steil i o chwarae a dwi'n edrych ymlaen yn fawr i sefydlu partneriaeth dda gyda Sam Davies."