/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pro14: Munster 36-10 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Munster v GweilchFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweilch yn parhau ar waelod Adran A y Pro14 ar ôl cael crasfa gan Munster yn Iwerddon nos Sadwrn.

Fe wnaeth yr ymwelwyr ildio dau gais tra'r oedd y blaenasgellwr Will Jones yn y gell gosb yn yr hanner cyntaf.

Cafodd y ceisiau cynnar hynny gan Sam Arnold a Darren Sweetnam eu dilyn gan un arall gan Chris Cloete.

Fe wnaeth Jeff Hassler daro 'nôl i'r Cymry cyn i Rory Scannell sicrhau'r pwynt bonws i'r Gwyddelod.

Llwyddodd Jack O'Donoghue i ychwanegu pumed cais i Munster cyn i Jones sgorio cais gysur i'r ymwelwyr ar y diwedd.