Fis Ionawr roedd teulu Maldwyn Jones yn tynnu ei goes wrth weld penawdau am feirws yn lledu ar ochr arall y byd. O fewn tri mis, a heb adael ei filltir sgwâr, roedd o’n sgwennu ei ewyllys ar ôl dal yr haint a’i wraig ar fin marw ohono.
Fel gweddill poblogaeth y byd, mae o’n dal i geisio dod i dermau gyda pha mor sydyn newidiodd ei fywyd.
Mae’n cofio nôl i fis Ionawr a’r coronafeirws yn y newyddion wrth i China geisio mynd i’r afael gyda'u hargyfwng nhw. Roedd Wuhan yn ymddangos yn bell iawn o gartref Maldwyn a’i wraig Heather, ac roedd eu merch Rhianwen wedi galw draw i'w gweld nhw ac yn herian ei thad.
“Dyma’r ferch yn dweud wrtha i – ‘os oes unrhywun am gael o chdi fydd o’, achos dwi’n dal bob dim. Bob annwyd sy’n mynd o gwmpas dwi’n gael o, dwi’n ofnadwy. Roedd Heather, er bod hi’n denau ac yn fach ar ôl bod yn sâl, bob tro’n dod drwy bob dim.
"Roeddan ni’n cael hwyl am y peth. Roedd y peth yn bell i ffwrdd a doedd neb yn gwybod be’ oedd o, neb yn meddwl bod o mor serious."
Buan iawn newidiodd hynny.
Y Felinheli, pentref ar lannau Afon Menai, ydi cartref Maldwyn a’i deulu ers 20 mlynedd. Bu’n gyrru lorïau a bysus cyn ymddeol ac roedd ei wraig Heather yn gofalu am eu mab David. Mae David, sy'n 49 oed, yn mynd i Antur Waunfawr, menter sy'n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu.
“Roedd Heather yn gwneud bob dim i David – bob dim,” meddai Maldwyn.
“Roedd hi’n gwneud bob dim yn tŷ hefyd. Os o'n i’n mynd i olchi llestri fyddai Heather yn dweud ‘wna i hwnna’ – a doedd hi ddim yn gadael i fi fynd i’r gegin, tan iddi fynd yn sâl.”
Roedd Heather wedi cael canser a phroblemau gyda’i chalon yn y blynyddoedd diwethaf felly wrth i’r byd ddysgu mwy am Covid-19 fe sylweddolodd y teulu y gallai hi fod yn fregus i’r haint.
Ganol Chwefror, fe ddechreuon nhw gyfnod clo eu hunain.
“Wnaethon ni dynnu David o Antur Waunfawr ac wedyn mond fi oedd yn mynd allan,” meddai Maldwyn, sy’n 73. “Ro’n i’n gwisgo menig i siopa. Ella bod ambell un yn edrych yn od arna i ar y pryd, ond erbyn diwedd y mis roedd pawb yn eu gwisgo nhw.”
Dal yr haint
Fis Mawrth roedd yn rhaid i Heather fynd i’r ysbyty am driniaeth, a chafodd ei tharo’n wael ar ôl dod adra.
“Roedd hi’n giami ac roedd rhaid i fi gario hi i’w gwely. Yn y diwedd roedd rhaid iddi fynd yn ôl mewn i Ysbyty Gwynedd,” meddai Maldwyn.
Ar ôl iddi ddechrau gwella a’i symud i ysbyty Penrhos, Caergybi, fe ddaeth y newyddion bod Heather wedi ei phrofi’n bositif i Covid-19. Erbyn hynny roedd Maldwyn a David hefyd wedi dechrau dangos symptomau ac yn gwaelu.
“Doeddwn i methu anadlu, a ro’n i’n boeth. Roedd rhaid i fi gael y paramedics yma dair neu pedair gwaith mewn 10 diwrnod. Ro’n i’n gorfod codi yn y bore, rhoi shower i David a’i helpu i’w roi ar y toiled, wedyn mynd lawr a jest gorwedd ar y setee. Roedd Rhianwen y ferch yn dod efo bwyd ac yn rhoi nhw ar y stepan drws. Doeddwn i methu gwneud dim byd.”
Penderfynodd alw'r twrnai.
"Trwy’r ffenest nes i wneud yr ewyllys.
“Ro’n i ar un ochr y ffenest ac roedd y twrna ar ochr arall y ffenest yn gwneud yr ewyllys. Ro’n i ofn ac wedi panicio ac yn meddwl ‘my number is up’.”
Deuddydd yn ddiweddarach, fe gafodd wybod bod Heather wedi marw, yn 82 oed.
“Pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd mae’n newid trefn bywyd," meddai Maldwyn. "‘Da ni gyd yn gwybod bod rhywbeth fel hyn am ddigwydd i ni rhywbryd, ond mae’r salwch yma wedi bod mor greulon - y peth mwya’ creulon ydi bod ni methu bod yno ar y funud ola’.
"Pan oedd hi angen ni fwya’, doeddan ni methu bod yno efo hi.
“Pan oedd ganddi hi ganser yn 2012, os fasa hi wedi mynd adeg yna fyddwn i wedi deall achos roedd hi’n wael ddychrynllyd, a faswn i wedi gallu bod yno.”
Ei unig gysur ydy bod nyrsys yn yr ysbyty wedi bod gyda'i wraig yn ei munudau olaf.
Dyddiau hapusach - y teulu yn dathlu'r Nadolig
Dyddiau hapusach - y teulu yn dathlu'r Nadolig
Fe wnaeth Maldwyn ddechrau gwella ac roedd yn ddigon da i fynd i'r angladd, ond mae’r haint wedi gadael ei ôl. Mae o’n fyr ei wynt, wedi blino’n lân ac eto methu cysgu yn y nos. Ac mae yna wacter.
Maldwyn rŵan sydd efo’r cyfrifoldeb dros ofalu am David. Mae’n diolch i’w gymuned a’r gwasanaethau cymdeithasol am fod yn gefn iddo, ond tydi pethau ddim yn hawdd.
“Mae David yn cael pyliau drwg, mae o wedi colli ei fam dydi, ei ffrind gorau.
“Mae’n galed, ond ‘da ni’n gorfod cario ‘mlaen.”