/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Brwydr yn streic y glowyr wedi'i threfnu gan y llywodraeth'

OrgreaveFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brwydr Orgreave wedi ei disgrifio fel un o'r dyddiau mwyaf treisgar yn ystod streic y glowyr

  • Cyhoeddwyd

Cafodd diwrnod mwyaf gwaedlyd streic glowyr 1984 ei drefnu yn Downing Street gan uwch aelodau o'r Llywodraeth Geidwadol ar y pryd, yn ôl uwch swyddog cyfreithiol Llywodraeth Cymru.

Mae "Brwydr Orgreave", fel mae'n cael ei adnabod, wedi ei ddisgrifio fel un o'r dyddiau mwyaf treisgar yn streic y glowyr ddeugain mlynedd yn ôl.

Mewn cyfweliad arbennig â BBC Cymru, mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi galw ar y llywodraeth Lafur newydd i gyflawni ei haddewid o ymchwiliad i Orgreave cyn gynted â phosib.

Mae glowyr hefyd wedi galw arnyn nhw i gyflawni'r addewid, oedd ym maniffesto'r blaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig pryd y gallai unrhyw ymchwiliad ddechrau.

Alan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Teithiodd Alan Jones o'i gartref ym Mhontyberem i Orgreave yn sir De Efrog i ymuno â llinell biced

Ym Mehefin 1984, ynghanol streic y glowyr, teithiodd Alan Jones, glöwr 26 oed, o'i gartref ym Mhontyberem i Orgreave yn sir De Efrog i ymuno â llinell biced.

Roedd yn un o tua 8,000 o lowyr oedd wedi ymgasglu ar y caeau o gwmpas gwaith golosg y pentref ger Rotherham i geisio atal lorïau rhag gadael y safle ar eu ffordd i ffwrneisi gweithfeydd dur enfawr Scunthorpe.

Yno yn eu disgwyl roedd tua 6,000 o blismyn.

Roedd y gwrthdaro a ddilynodd rhwng y ddwy ochr yn ffyrnig a gwaedlyd, gyda'r heddlu'n defnyddio ceffylau, cŵn, tariannau a batonau i wasgaru'r dorf.

Anafwyd 120 o lowyr a phlismyn.

Fe gafodd 95 o lowyr eu harestio a'u cyhuddo o derfysg ac anrhefn dreisgar, ond fe gafodd y cyhuddiadau yn eu herbyn eu gollwng oherwydd diffyg tystiolaeth.

'Digon i hala ofn ar bawb'

Mae'r diwrnod yn cael ei gofio fel Brwydr Orgreave, ac wedi ei ddisgrifio fel un o'r enghreifftiau gwaethaf o ymddygiad treisgar gan yr heddlu mewn anghydfod diwydiannol cyfoes.

Mae digwyddiadau'r diwrnod hwnnw yn fyw iawn yn y cof i Alan Jones.

Wrth iddo deithio nôl i Orgreave 40 mlynedd ar ôl y streic, mae'n dweud fod y pentref wedi newid bron y tu hwnt i unrhyw adnabyddiaeth.

Ond mae ambell fan yn dod ag atgofion iddo.

Alan Jones Ffynhonnell y llun, Roger Tiley
Disgrifiad o’r llun,

"Galla i gofio'r heddlu yn dod mewn â'u batons a bydden nhw jyst yn bwrw pawb," meddai Alan Jones

Wrth gerdded ar hyd prif stryd hen bentre’ Orgreave a chroesi pont reilffordd mae'r atgofion yn llifo nôl.

"Roedd e yn ddigon i hala ofn ar bawb. Roedd pob un yn sgathru a rhedeg bant," meddai.

"Galla i gofio'r heddlu yn dod mewn â'u batons a bydden nhw jyst yn bwrw pawb, hyd yn oed y bobl oedd wedi cwympo i'r llawr a gwaed yn llifo dros eu pennau.

"Doedd dim trugaredd, na meddwl am godi rhywun lan a'u helpu - roedden nhw yn bwrw pawb."

Galw am ymchwiliad

Mae ymgyrchwyr ers y digwyddiad wedi bod yn galw am ymchwiliad agored llawn, ac atebion i gwestiynau ynglŷn â thactegau'r heddlu a'r amheuon sy'n cael eu lleisio ynglŷn â'r rhan a gafodd ei chwarae gan y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd.

Roedd y Cwnsler Cyffredinol, ac Aelod Senedd Llafur dros etholaeth Pontypridd, Mick Antoniw, yn gyfreithiwr ifanc adeg y streic ac yn cynrychioli rhai o'r glowyr a gafodd eu harestio.

Mick Antoniw
Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid cael cyfiawnder i'r bobl wnaeth ddioddef yn Orgreave," meddai Mick Antoniw

"Mae wedi bod yn amser hir, a rhaid cael cyfiawnder i'r bobl wnaeth ddioddef yn Orgreave," meddai.

"Fel cyfreithiwr ifanc ar y pryd fy argraff gignoeth i yw pa mor agos ddaethon ni at fod yn wladwriaeth heddlu - yn police state.

"Roedd hyn yn gamddefnydd o bŵer y wladwriaeth."

'Maggie's Boys'

Fe wnaeth Robert Griffiths, cyn-heddwas o Ddinbych, wirfoddoli i weithio yn Orgreave.

Dywedodd ei fod yn ofni am ei fywyd y diwrnod hwnnw, a dywedodd fod trais ar y ddwy ochr.

"Dechreuodd taflegrau fwrw glaw arnom - ballbearings, briciau a darnau o fetel," meddai.

"Nes i droi at gydweithiwr, Stan, a dwi'n cofio dweud, 'dwi'n meddwl bod ni'n mynd i farw yma'.

"Adeg Orgreave roedd fy mhlant yn bump a thair. Beth pe bawn i'n mynd adref mewn bag corff?

"Roedd hi mor ddrwg â hynny'r diwrnod hwnnw."

Robert Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

"Ro'n i'n gwybod mod i'n declyn oedd yn cael ei ddefnyddio gan y llywodraeth i guro'r glowyr," meddai Robert Griffiths

Dywedodd Robert ei fod yn cofio rhai glowyr yn targedu ceffylau heddlu.

"Fe ddyrnodd geffyl yr heddlu yn ei wyneb," meddai.

"O fewn eiliad neu ddwy, tynnodd reidiwr yr heddlu yr awenau i'w dde, ac aeth pen y ceffyl yn malu yn syth i mewn i'r glöwr hwnnw."

Dywedodd Robert fod y glöwr yn gofyn iddo "beth ydych chi'n mynd i'w wneud am hynny">