Georgia Ruth: 'Braint bod gyda Iwan' yn y cyfnod wedi'r strôc

- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor Georgia Ruth wedi dweud ei bod hi "erioed wedi gweld neb mor ddewr" â'i gŵr wrth iddo wella ar ôl cael strôc.
Cafodd Iwan Huws, prif leisydd y grŵp poblogaidd, Cowbois Rhos Botwnnog, ei daro'n wael tra'n perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau y llynedd.
Wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobol, dywedodd Georgia fod Iwan bellach yn trin y profiad "bron fel anrheg" ac yn "chwarae gitâr bob dydd".
Ddydd Gwener, daeth cyhoeddiad fod Cowbois yn dychwelyd i Sesiwn Fawr ym mis Gorffennaf eleni i gigio am y tro cyntaf ers y digwyddiad.
'Mynd i crisis mode'
Yn 2023, fe siaradodd Iwan Huws gyda Cymru Fyw am y profiad o wella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei galon.
Ond ychydig fisoedd wedyn, tra'n perfformio set ar lwyfan Sesiwn Fawr, fe gafodd Iwan strôc.
"O'dd e ddim yn rhywbeth gallai unrhyw un fod wedi ei weld yn dod achos ei oed e, o'dd e'n ifanc," meddai Georgia.
"O'n i adref gyda'r plant, o'dd hi'n ddiwrnod cyntaf gwyliau'r haf. O'dd e wedi mynd yn y bore a fi'n cofio dweud wrth y plant na fydd Dad yn ôl tan fory.
"Wedyn yn ganol nos, cael llwyth o alwadau ffôn a meddwl 'oh heck, be sydd wedi digwydd">