Holl brifathrawon sir yn beirniadu toriadau hyd at 10%

Mae'r penaethiaid wedi rhybuddio mai'r plant mwyaf bregus sydd angen cymorth ychwanegol fydd yn dioddef fwyaf.
- Cyhoeddwyd
Mae holl brifathrawon Sir Conwy wedi arwyddo llythyr yn beirniadu'r cyngor am gynlluniau i dorri cyllid ysgolion o rhwng 6% i 10%.
Mae'r llythyr yn cael ei ddanfon at rieni plant sy'n mynychu ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion anghenion arbennig Conwy.
Mae’r awdurdod lleol eisoes wedi torri cyllidebau addysg 5% y llynedd - gyda hyd yn oed mwy o doriadau yn cael eu cynnig eleni.
Er bod union lefel y toriadau i'w bennu mewn cyfarfod ddiwedd Chwefror, mae rhai cynghorwyr eisoes wedi dweud y byddan nhw'n gwneud toriadau o 6% o leiaf - gyda 10% hefyd yn cael ei awgrymu.
Dywedodd Cyngor Conwy bod rhaid gwneud "penderfyniadau anodd", tra bod Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod "yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y sector i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n dysgwyr".
'Twll du ariannol' o £25m
Mae'r penaethiaid wedi rhybuddio mai'r plant mwyaf bregus sydd angen cymorth ychwanegol fydd yn dioddef fwyaf.
"Rydym ni fel penaethiaid Conwy a chyrff llywodraethol yn poeni'n arbennig eleni gan fod gofyn i ni dderbyn arbedion o rhwng 6% a 10% gan awdurdod lleol Conwy ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf," meddai'r llythyr.
“Mae'n deg dweud bod unrhyw doriad i gyllid ysgolion yn mynd i wneud gosod cyllideb gytbwys yn hynod o heriol i benaethiaid a chyrff llywodraethol.
“Rydym am i rieni a gofalwyr ddeall yn llawn yr heriau difrifol yr ydym yn parhau i'w hwynebu.”

Mae Cyngor Conwy yn wynebu twll du ariannol o £25m
Mae'r llythyr yn ychwanegu bod y "sefyllfa ariannol mewn ysgolion bellach yn argyfyngus” a bydd “toriadau pellach i gyllidebau ysgolion yn cael effaith sylweddol ar yr hyn y gallwn ei ddarparu i'n disgyblion".
Mae'r llythyr wedyn yn esbonio bod penaethiaid eisoes wedi ysgrifennu at weinidog addysg Llywodraeth Cymru i fynegi eu pryderon.
Mae’r penaethiaid hefyd yn rhybuddio am golli swyddi, gan ddod i ben drwy ddweud: “Yn y diwedd, y plant o fewn ein cymunedau fydd yn dioddef - maen nhw'n haeddu gwell."
"Sut mae ysgolion i fod i barhau">