/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Bachgen 13 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad ar dir ysgol

Ysgol Gynradd MelinFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gynradd Melin wedi ailagor ddydd Iau wedi'r "digwyddiad trasig"

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth bachgen 13 oed yng Nghastell-nedd.

Bu farw'r bachgen yn dilyn digwyddiad ar dir Ysgol Gynradd Melin yn ystod yr oriau mân fore Mercher.

Roedd yr ysgol ar gau am weddill y dydd ond mae hi wedi ailagor erbyn dydd Iau, meddai'r pennaeth mewn llythyr i rieni.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd, yn ôl Heddlu'r De.

Pynciau cysylltiedig