/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Undebau'n cyhuddo Tata o roi cynnig diswyddo 'didostur'

Safle Tata, Port TalbotFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i 2,000 o swyddi ar safle Port Talbot yn y fantol

  • Cyhoeddwyd

Mae trafodaethau dros ddyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot wedi methu, ar ôl i undebau wrthod cytuno i gynlluniau ailstrwythuro cwmni Tata.

Yn ôl undebau, mae'r cwmni wedi "diystyru" effaith y newidiadau ar weithwyr, eu teuluoedd a chymunedau.

Mae disgwyl i 2,800 o bobl golli eu swyddi ar draws Prydain fel rhan o'r cynlluniau ailstrwythuro.

Ym Mhort Talbot fydd y rhan fwyaf o'r swyddi'n diflannu. Yno, mae'r cwmni'n bwriadu cau dwy ffwrnes chwyth eleni.

Yn ôl y cwmni, mae ganddyn nhw gynllun diswyddo gwerth £130m, a bydd adeiladu ffwrnes drydan newydd hefyd yn darparu swyddi newydd.

Ychwanegon nhw eu bod "wedi cyflwyno cynnig helaeth sy’n cynnwys y pecyn cymorth gwell i weithwyr... yn ogystal â chynnig hael ar gyfer cynllun sgiliau ac ailhyfforddi ar gyfer gweithwyr sy’n cael eu diswyddo’n anwirfoddol".