Dwy farwolaeth drasig yn dod â dwy fam at ei gilydd

Mae Andrea a Rhian bellach yn ffrindiau agos
- Cyhoeddwyd
Mae Rhian Mannings ac Andrea Evans wedi bod yn ffrindiau pennaf ers 13 mlynedd – ond ni allai'r amgylchiadau a ddaeth y ddwy at ei gilydd wedi gallu bod yn fwy trasig.
Andrea, sy'n gweithio fel nyrs, oedd y person olaf i afael yn George, mab blwydd oed Rhian wedi iddo farw o niwmonia.
"Gadael yr ysbyty heb eich plentyn yw'r peth mwyaf annaturiol fel rhiant y bydd yn rhaid i chi byth ei wneud," meddai Rhian.
"Ond roedd gadael George yn ei breichiau yn ei gwneud hi ychydig yn haws oherwydd roeddwn i'n gwybod bod rhywun yn malio."
Ar ôl marwolaeth George, dychwelodd Rhian a'i gŵr Paul i'w cartref yn methu â gwneud synnwyr o'u colled anferth.
Yn y cyfamser, parhaodd Andrea â'i gwaith, gan ofalu am gleifion eraill.

Roedd George, yma'n cael ei ddal gan Paul, yn fabi iach cyn cael ei daro'n wael ychydig ddyddiau yn dilyn ei ben-blwydd cyntaf
Mae Rhian ac Andrea yn rhannu eu stori i daflu goleuni ar y doll emosiynol y gall marwolaeth plentyn ei gael ar weithwyr proffesiynol - o feddygon a nyrsys i swyddogion heddlu, diffoddwyr tân ac athrawon.
Mae elusen Rhian, 2Wish, yn cynnig cymorth i unrhyw un sydd wedi profi marwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu oedolyn ifanc.
Mae gweithwyr proffesiynol fel Andrea yn gallu cyfeirio eu hunain a chael amrywiaeth o gymorth gan gynnwys sesiynau dad-friffio, cwnsela a therapïau cyflenwol.
'Wedi blino'n lân'
Roedd George wedi bod yn chwarae'n hapus gyda'i frawd a'i chwaer cyn iddo fynd yn sâl yn sydyn iawn, ychydig ddyddiau yn dilyn ei ben-blwydd cyntaf.
Cafodd ei ruthro i Ysbyty Brenhinol Morgannwg a chafodd ofal gan nifer o staff gan gynnwys Andrea.
Yn ogystal â gofalu am George, roedd Andrea yn gyfrifol am hysbysu ei rieni am yr hyn oedd yn digwydd.
Ond 13 mlynedd wedyn, dyw ei hatgofion o'r noson honno heb bylu.
"Rwy'n cofio gweld Rhian a Paul yn cyrraedd ac yn hollol ddigalon," meddai Andrea, sy'n dod o Donysguboriau, Rhondda Cynon Taf.
Arhosodd Andrea gyda Rhian a Paul yn ystod eiliadau olaf George, yn ogystal ag aros gyda George unwaith iddyn nhw adael yr ysbyty.
Yna gweithiodd Andrea weddill ei shifft.
"Rydych chi wedi blino'n lân o'r ychydig oriau hynny... ond mae'r adran yn brysur ac mae pobl eraill yn dal i ddod a dydyn nhw ddim yn ymwybodol o'r hyn sydd wedi digwydd," meddai Andrea.
"Mae angen gofalu amdanyn nhw yn union yr un ffordd ac felly does gennych chi ddim amser, does gennych chi ddim amser i eistedd a meddwl."

George oedd plentyn ieuengaf Rhian a Paul
Ond roedd marwolaeth George wedi effeithio arni.
Roedd gan Andrea fabi chwe mis oed gartref a dau o blant eraill o oedran tebyg i blant hŷn Rhian.
"Mae'n bendant yn taro rhywun... rydych chi eisiau mynd adref a chofleidio eich plant eich hun," meddai.
Yn y cyfamser, roedd Rhian a'i gŵr Paul wedi dychwelyd adref ac roedd cardiau pen-blwydd George yn dal o gwmpas y tŷ.
Dros y dyddiau i ddod roedd Rhian wedi synnu mai'r unig gymorth profedigaeth a gafodd ei gynnig iddyn nhw oedd taflen gyda rhestr o rifau ffôn.
"Mae gennych chi'r staff anhygoel yma yn yr ysbyty yn gwneud popeth o fewn eu gallu ond pan fyddwch chi'n gadael does dim byd yno i'ch codi chi na gofalu amdanoch nac ateb eich cwestiynau," meddai Rhian, o Feisgyn, Rhondda Cynon Taf.
Roedd Paul yn cael trafferth ymdopi a dechreuodd feio ei hun am farwolaeth George.
"Roedd yn teimlo y dylen ni fod wedi mynd ag e yn y car yn hytrach nag aros am yr ambiwlans," meddai Rhian.
"Roedd yn teimlo fel tad ei fod o bosib wedi methu ein teulu, sy'n wirioneddol dorcalonnus."

Nawr mae Andrea (chwith) yn gobeithio annog gweithwyr proffesiynol eraill i gael cymorth
Roedden nhw'n siarad am Andrea yn aml.
Ond yna, bum niwrnod ar ôl marwolaeth George, fe wnaeth Paul ladd ei hun.
Roedd wedi mynd am dro i glirio ei ben ond ni ddaeth yn ôl.
Tra'r oedd Rhian yn ystyried galw'r heddlu, ymddangosodd dau swyddog wrth ei drws i ddweud wrthi ei fod wedi marw.
"Dwi wir yn credu y cafon ni ein methu a dyna arweiniodd at farwolaeth Paul," meddai Rhian.
"Wnaeth neb gnocio ar ein drws a chynnig unrhyw gefnogaeth i ni gan unrhyw fath o asiantaeth neu gorff proffesiynol ac mae hynny'n anodd iawn byw gydag ef."
'Eisiau gwybod ei bod hi'n iawn'
Clywodd Andrea am farwolaeth Paul ar ôl cyrraedd y gwaith ar gyfer shifft nos.
"Roedd yn ddinistriol oherwydd es i ymlaen wedyn i feddwl os y dylwn i fod wedi gwneud rhywbeth yn well," meddai.
"Beth pe bawn i wedi dweud rhywbeth gwahanol, a allwn i fod wedi ei helpu mwy">