/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Arestio pedwar yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Rhyl

Ffordd KingsleyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Kingsley am tua 08:22 fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi eu harestio ar ôl i ddyn gael ei anafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Y Rhyl fore Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Kingsley yn y dref am tua 08:22 yn dilyn adroddiadau bod cerddwr wedi cael ei daro gan gerbyd, cyn i'r gyrrwr ffoi o'r safle.

Cafodd dyn 77 oed ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke gydag anafiadau sy'n cael eu disgrifio fel rhai "difrifol", ond mae o bellach mewn cyflwr sefydlog, yn ôl yr heddlu.

Daeth swyddogion o hyd i'r car yr oedden nhw'n amau o fod yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad y tu allan i eiddo ar Heol Marsh a chafodd pedwar o bobl, oedd y tu mewn i'r eiddo, eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau gyrru.

Mae'r tri dyn ac un ddynes wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

Mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw cyn gynted â phosib.

Pynciau cysylltiedig