Bryn Terfel: Cael brechdan yn y Tŷ Gwyn gyda Clint Eastwood

Llŷr a Lisa fu'n busnesa yn nhŷ Bryn Terfel
- Cyhoeddwyd
Pan ddechreuodd canwr ifanc o Bant Glas gystadlu mewn eisteddfodau lleol, prin y byddai wedi dychmygu y byddai un diwrnod yn cyfarfod â rhai o enwau mawr y diwydiant adloniant, gan gynnwys un o'i arwyr o Hollywood.
Ond dyna sydd wedi digwydd i Syr Bryn Terfel, a hynny fwy nag unwaith ers i'w yrfa canu ei droi yn enw byd-enwog.
Bryn yw gwestai cyntaf podlediad newydd BBC Radio Cymru, Ding Dong! gyda Lisa a Llŷr , lle mae'r pâr priod, Lisa Gwilym a Llŷr Evans yn teithio Cymru yn busnesa yn nhai gwahanol selebs, gan glywed ambell i stori ddiddorol.
Ond fydd 'na stori yn curo rhai Syr Bryn am rwbio ysgwyddau gyda rhai o sêr mwya'r byd...?!

Clint Eastwood, brenin y Westerns i Bryn
Picio i'r Tŷ Gwyn am frechdan
Dwi'n cofio canu unwaith yn y Tŷ Gwyn yn Washington DC, yn y Kennedy Center Awards.
'Nes i dri ohonyn nhw; i Elizabeth Taylor, i James Levine yr arweinydd, ac unwaith i Jack Lemmon, yr actor, lle 'nes i ganu You'll Never Walk Alone o Carousel – cân sy'n cael ei chysylltu efo Lerpwl wrth gwrs, ond cân gan Rogers and Hammerstein ydi hi 'de!
Cyn y cyngerdd, mynd i'r Tŷ Gwyn am de a brechdan.
Wastad pan o'n i'n ifanc, o'n i'n gwylio Westerns efo Dad, ac o'dd Clint Eastwood yn bwysig yn tŷ ni. 'Nes i gerdded i mewn i'r stafell 'ma, a'r person cynta' 'nes i rwbio 'sgwyddau efo fo oedd Clint Eastwood!
O'n i'n syfrdan, ac o fewn eiliadau, o'dd y cyfle 'di mynd... Wrth gwrs, doedd o ddim 'di nghlywed i'n perfformio, doedd o ddim yn gwybod pwy o'n i!
Wedyn, ddaeth y noson lle o'n i'n canu i Mr Lemmon. A wedyn ddaeth yr actorion 'ma i gyd i gefn llwyfan, ac mi ddaeth yr hen Clint yn ôl at Bryn a d'eud "I enjoyed your performance", a ges i ddeud "mae nhad i wrth ei fodd efo'ch gwaith chi, a 'da chi'n gerddor arbennig" achos mae o'n cyfansoddi cerddoriaeth i'w ffilms.
'Swn i'n licio 'sa nhad wedi bod yna i'w gyfarfod o.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.