C'mon Midffîld: Canfod ffrog 'eiconig' Wali ar ôl 30 mlynedd

Mae'r ffrog a ymddangosodd yn y gyfres yn 1992 wedi'i chanfod ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae un o wisgoedd eiconig cyfres boblogaidd C'mon Midffîld wedi’i chanfod dros dri degawd yn ddiweddarach, a bellach am gael bywyd newydd.
Cafodd pennod gyntaf y gyfres C'mon Midffîld ei darlledu ar 18 Tachwedd 1988 ar S4C - cyfres sydd wedi dal dychymyg nifer o Gymry dros y blynyddoedd.
Cafodd ffrog fawr ei gwisgo gan y diweddar Mei Jones yn y bennod ‘Fe Gei Di Fynd i’r Bôl’ yn 1992 - pennod oedd yn dilyn hynt a helynt y cymeriadau mewn pantomeim Nadolig.
Bellach, mae’r ffrog wreiddiol a wisgodd Mei Jones - oedd yn chwarae rhan Wali Tomos - wedi’i chanfod a'i phrynu gan griw Theatr Fach Llangefni ar Ynys Môn, ac am gael bywyd newydd yn eu pantomeim nhw eleni.
Canfod 'trysor'
Catrin Angharad Jones sy'n cael y dasg o gyfarwyddo pantomeim Theatr Fach Llangefni eleni, a dywedodd fod y ffrog eiconig yn "drysor".
"Mi ddaru 'na siop wisg ffansi leol benderfynu bod nhw'n gwerthu eu gwisgoedd a'u bod nhw'n dod i ben ar ôl blynyddoedd," meddai.
"Mi 'nes i weld ambell i bost arlein ganddyn nhw bod 'na ddillad ar werth.
"Es i draw a gweld tair ffrog dame ar werth... yn ddiarwybod i mi, roeddwn i wedi gafael yn y tair ffrog, ac un o'r tair oedd ffrog Mei Jones - un Wali Tomos o'r bennod honno.
"Mae'n rhaid i mi gyfadda', 'nes i'm sylwi am eiliad mai honno oedd y ffrog.
"Be' 'nes i oedd tynnu lluniau ohonyn nhw a rhannu nhw wedyn efo'r cast a holi beth oedd pawb yn feddwl a gofyn os dyliwn i fynd yn ôl a'u prynu nhw."

Catrin Angharad Jones sy'n cyfarwyddo pantomeim Theatr Fach Llangefni eleni
Ar ôl rhannu'r lluniau o'r ffrogiau gyda'r cast, daeth yn amlwg fod y criw wedi darganfod darn o hanes.
Ychwanegodd Catrin: "Dyma un aelod o'r cast yn dweud 'mam bach Catrin - wyt ti'n sylweddoli bo' chdi wedi gadael ffrog Wali Tomos ar ôl yn y siop">