/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dim cwest i farwolaethau glofa'r Gleision tan 2026

Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry JenkinsFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Charles Breslin, David Powell, Philip Hill a Garry Jenkins pan lifodd dŵr i lofa'r Gleision

  • Cyhoeddwyd

Bydd yn rhaid i deuluoedd pedwar dyn a fu farw mewn glofa yng Nghastell-nedd Port Talbot dros 13 mlynedd yn ôl aros tan 2026 am atebion o ran union achos y trychineb.

Bu farw Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Phillip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan ddaeth dŵr i mewn i lofa'r Gleision yng Nghilybebyll ym mis Medi 2011.

Roedden nhw ymhlith saith o lowyr oedd yn gweithio mewn twnnel a gafodd ei orlifo gan alwyni o ddŵr.

Yn 2022, yn dilyn ymgyrch hir, fe gafodd eu teuluoedd wybod y byddai cwest llawn yn cael ei gynnal i'w marwolaethau.

Mewn gwrandawiad cyn cwest yn Abertawe ddydd Gwener, fe ddaeth i'r amlwg na fydd hwnnw'n cael ei gynnal nawr tan o leiaf "ddechrau 2026".

Clywodd y gwrandawiad yn Neuadd y Ddinas, Abertawe bod yna "gymhlethdodau sylweddol" o ran dogfennau angenrheidiol.

Yn ôl cynrychiolydd y teuluoedd, Christian Howells, "mae'r Awdurdod Glo'n credu bod yna 75,000 o dudalennau o ddeunydd ysgrifenedig" sy'n bum gwaith yn fwy nag oedd wedi ei amcangyfrif.

Dywedodd y Crwner Edward Ramsay fod "rhaid symud ymlaen gyda'r cwestau hyn yn gyflym", a bydd y broses yn un "llawn, teg a di-ofn".

Ychwanegodd: "Gallaf roi sicrwydd i'r teuluoedd na fydd unrhyw beth rhad ynghylch yr ymchwiliad yma.

"Mae'r cwestau hyn angen ffocws fforensig a manwl [i gadarnhau] o ble ddaeth y dŵr ac a wyddai unrhyw un ei fod yna.

"Rwy'n benderfynol o gadarnhau a allai'r dogfennau yma helpu ateb yn llawn sut, yn drasig, y bu farw'r dynion yma."

Glofa'r GleisionFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn Y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Dyfarnodd rheithgor yn 2014 bod rheolwr a pherchnogion y lofa'n ddieuog o ddynladdiad

Dywedodd Nicholas Moss KC, sy'n cynghori'r Crwner, fod swmp y dogfennau "yn heriol iawn", ac mae tri chwnsler iau wedi eu penodi i helpu gyda'r llwyth gwaith.

Clywodd y gwrandawiad fod yna oedi hefyd oherwydd cysylltiad personol rhwng y crwner blaenorol ac aelod o deulu person sy'n gysylltiedig â'r achos.

Clywodd hefyd am "fater dyrys" y feirniadaeth sydd wedi bod o'r ymchwiliad cychwynnol wedi'r digwyddiad.

Dywedodd Mr Moss y bydd angen penderfynu a ddylai'r crwner ystyried cymhelliad y sawl fu'n rhan o'r ymchwiliadau hynny, gan ofyn: "A fu ymgais bwriadol i gelu'r hyn oedd wedi digwydd">