/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Storm Bert: Y Swyddfa Dywydd yn amddiffyn eu rhybudd melyn

Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud nad oedd asesiadau cyn Storm Bert yn awgrymu bod y llifogydd difrifol yn debygol

  • Cyhoeddwyd

Doedd yr asesiadau a gafodd eu gwneud cyn Storm Bert ddim yn awgrymu bod llifogydd difrifol yn debygol, yn ôl un o uwch swyddogion y Swyddfa Dywydd.

Roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan ymhlith y rhai ddywedodd fod angen gwell rhybuddion ar ôl i'r llifogydd daro dros 700 o dai yng Nghymru wedi'r storm fis diwethaf.

Dywedodd Simon Brown, un o gyfarwyddwyr y Swyddfa Dywydd, wrth bwyllgor San Steffan ddydd Mercher fod y tywydd gymharol sych yn y pythefnos cyn Storm Bert "yn gyffredinol yn golygu bod pridd wedi sychu" gan awgrymu "na fyddai cymaint o lifogydd".

Ond dywedodd Mr Brown fod yr asiantaeth yn adolygu a oedd rhybudd tywydd melyn a gyhoeddwyd cyn y storm yn briodol.

Mae aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi bod yn cynnal ymchwiliad i barodrwydd Cymru ar gyfer llifogydd, yn dilyn Storm Bert a Storm Darragh.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, AS Gorllewin Casnewydd ac Islwyn Ruth Jones, fod y ddwy storm yn ymddangos fel pe baent wedi cael eu "trin yn hollol wahanol" yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn cyn Storm Bert, tra bo rhybuddion coch, oren a melyn mewn grym ar gyfer Storm Darragh.

"A oedd y rhybuddion a gyhoeddwyd ar gyfer Storm Bert yn ddigonol i alluogi i bobl amddiffyn eu hunain">