/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Gareth Anscombe i symud i Japan ar ôl Cwpan y Byd

Gareth AnscombeFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Gareth Anscombe â Chaerdydd yn 2014, cyn symud i'r Gweilch yn 2019

  • Cyhoeddwyd

Y maswr Gareth Anscombe yw'r chwaraewr diweddaraf i gyhoeddi y bydd yn gadael Cymru ar ôl Cwpan y Byd.

Bydd Anscombe yn arwyddo i glwb Tokyo Suntory Sungoliath yn Japan, wedi iddo adael y Gweilch ar ddiwedd tymor 2022-23.

Daw ei gyhoeddiad wedi i'r cefnwr Liam Williams gadarnhau fis diwethaf y bydd yntau'n gadael am Japan ar ôl Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc yn yr hydref.

Mae Anscombe yn rhan o garfan hyfforddi Cymru ar gyfer y gystadleuaeth, ac mae'n gobeithio cynrychioli Cymru mewn Cwpan y Byd am y trydydd tro.

Ond oherwydd amserlen tymor rygbi Japan, mae'n annhebygol o fod ar gael ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2024.