Dirgelwch y cacennau sy'n cael eu darganfod ar yr A470

Mae trigolion Dolwyddelan wedi bod yn darganfod y cacennau ers misoedd
- Cyhoeddwyd
Mae cacennau wedi cael eu gadael ar ochr ffordd brysur yn y gogledd ers misoedd, ond dydi hi ddim yn glir pwy sy'n gyfrifol na pham fod hyn yn digwydd.
Mae trigolion Dolwyddelan wedi dod o hyd i bob math o ddanteithion ar ochr yr A470, i gyd dal yn eu pecynnau plastig.
Fe ymddangosodd y cacennau cyntaf tua diwedd 2024 ar ochr y lôn sy'n mynd allan o'r pentref i gyfeiriad y gogledd - roedd rhai wedi dyddio, ond eraill yn dal yn iawn i'w bwyta.
Yn ôl rhai o bobl y pentref, mae'r sefyllfa yn un "od ofnadwy" gydag eraill yn poeni ei fod yn achos o daflu sbwriel o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.

Yn ôl Paul Donnelly, sy'n byw yn lleol, fe ddechreuodd o gasglu'r cacennau wrth fynd allan i fynd â'i gŵn am dro.
"Mae hyn wedi bod yn digwydd ers ychydig fisoedd rŵan, a'r wythnos yma 'da ni gweld nifer o eitemau yn cael eu gadael yma," meddai.
"Roedd 'na dri yn gynharach yn yr wythnos, ac wedyn dau arall ddydd Gwener.
"Nes i ddim meddwl llawer o'r peth i ddechrau, ond unwaith nes i sylwi bod y pecynnau yn edrych yn debyg, mi wnes i weld bod yna batrwm
"Y peth fwyaf rhyfedd yw'r ffaith eu bod nhw dal yn y plastig, ac mae rhai yn dal yn iawn i'w bwyta o ran y dyddiad - os oes rhywun wedi eu prynu, pam fydda nhw yn eu taflu">