/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Menyw wedi ei tharo gan gar wrth fynd â chi am dro

CasnewyddFfynhonnell y llun, Saul Evans
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y fenyw yn sownd o dan y car ar ôl cael ei tharo

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw yn yr ysbyty ar ôl cael ei tharo gan gar wrth fynd â chi am dro yng Nghasnewydd fore Llun.

Aeth y fenyw yn sownd o dan y car ar ôl cael ei tharo, a bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân ei thorri'n rhydd.

Mae hi bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu fod y bobl a oedd yn teithio yn y car - Volkswagen at arian - wedi gadael y lleoliad cyn iddyn nhw gyrraedd yno.

Roedd y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Rowan Way yn ardal Malpas y ddinas am 06:35.

Cafodd y ci ei anafu yn y digwyddiad hefyd, meddai'r heddlu, sy'n apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig