Galw ar Archesgob Cymru i ymddiswyddo wedi adroddiadau beirniadol

Mae Andrew John wedi bod yn Esgob Bangor ers 2008, ac yn Archesgob Cymru ers 2021
- Cyhoeddwyd
Mae galw ar Archesgob Cymru i ymddiswyddo wedi i ddau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am ddiogelu ac ymddygiad gwael yng Nghadeirlan Bangor.
Dros benwythnos Gŵyl y Banc, cyhoeddwyd crynodeb dau adroddiad ar wefan yr Eglwys yng Nghymru ynghyd â datganiad yn enw Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, y Parchedicaf Andrew John.
Roedd yr adroddiadau yn cynnwys cwynion am "ddiwylliant lle roedd hi'n ymddangos bod terfynau rhywiol wedi eu cymylu", defnydd o iaith anweddus ac yfed alcohol yn ormodol.
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cydnabod gwendidau diogelu, arferion rheoli gwan heb dryloywder digonol a chamymddwyn mewn perthynas â defnydd alcohol ac ymddygiad rhywiol yn y Gadeirlan.
Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, dywedodd y Parchedicaf Andrew John ei fod yn "ymddiheuro'n ddiffuant i unrhyw aelodau'r Eglwys Gadeiriol sydd wedi eu brifo neu'n teimlo fy mod wedi eu gadael i lawr" gan ddweud y bydd yn gweithio gydag eraill "i sicrhau bod newid parhaol yn digwydd".
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
Dywed yr Eglwys i'r adroddiadau gael eu comisiynu wedi iddyn nhw ddod yn ymwybodol o broblemau o fewn y Gadeirlan, ac iddyn nhw greu grŵp gweithredu er mwyn sicrhau gwelliannau o ran y materion sydd wedi eu hamlinellu.
Dyw'r adroddiadau llawn heb eu cyhoeddi.
Ers cyhoeddi'r crynodebau, mae rhai yn anfodlon gyda'r diffyg manylion, gan feirniadu'r Eglwys am "ddiffyg tryloywder".
Er i raglen Newyddion S4C ofyn sawl gwaith am gyfweliad gyda'r Archesgob, dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys na fyddai hynny'n bosib, a bod angen i gymuned y Gadeirlan "fyfyrio ar gynnwys yr adroddiadau a'r datganiad heb [i'r Eglwys] ychwanegu mwy o sylwebaeth".

Mae dau adroddiad beirniadol wedi amlinellu pryderon am ddiogelu ac ymddygiad gwael yng Nghadeirlan Bangor
Mae John Pockett yn aelod o'r Eglwys yng Nghymru ers bron i 70 mlynedd. Bu gynt yn stiward yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ac yn arweinydd yr ymbiliau yno.
Mae'n galw ar yr Archesgob i ystyried ei ddyfodol.
"Fe yw arweinydd yr Eglwys yng Nghymru ac mae yng nghanol hyn oll," meddai.
"Fe yw'r Archesgob, fe yw'r arweinydd ac mae wedi digwydd yn ei Eglwys Gadeiriol e.
"Mae e'n trochi enw'r Eglwys yng Nghymru ar hyd a lled y wlad. Mae'n rhaid i Andy John ddweud yn blwmp ac yn blaen beth sydd wedi digwydd."

Mae John Pockett yn galw ar yr Archesgob i ystyried ei ddyfodol
Ychwanegodd: "Fyddwn i'n dweud dim ond un peth sydd i Andy John - nid os, ond pryd fydd e'n ymddiswyddo?
"Mae 'na gryn ofid am ddyfodol yr Eglwys yng Nghymru ac am y diffyg gonestrwydd a'r diffyg bod yn agored i'r bobl.
"Mae hawl gyda ni i wybod beth sydd wedi mynd ymlaen."
Dywed yr Eglwys yng Nghymru bod bwrdd goruchwylio wedi ei benodi i oruchwylio gwaith y grŵp gweithredu newydd a chefnogi Deon newydd sydd eto i gael ei benodi.

"Mae mwy o ofid am beth sydd heb ei gynnwys na'r cynnwys ei hun," meddai Ruth Jones am yr adroddiadau
Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd ac Islwyn, Ruth Jones, yw cadeirydd grŵp trawsbleidiol San Steffan ar ddiogelu mewn cymunedau ffydd.
Mae hi hefyd wedi galw am esboniad llawn gan yr Archesgob am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor.
"Rwy'n poeni. Mae'r adroddiadau yn fyr felly mae mwy o ofid am beth sydd heb ei gynnwys na'r cynnwys ei hun," meddai.
"Maen nhw'n dweud bod problemau wedi codi, ond dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth yw'r problemau hynny - na felly beth yw'r atebion.
"Rwy'n annog [yr Archesgob] i siarad am y problemau sydd wedi bod a sut maen nhw'n gwella pethau yno fel bod pawb sydd yn ymweld â Chadeirlan Bangor, p'run ai yw hynny am ddiwrnod neu eu bod wedi bod yno ers 50 mlynedd, yn gallu teimlo'n ddiogel yno."

Mae'r Athro Syr Malcolm Evans yn poeni am y sefyllfa yng Nghadeirlan Bangor
Roedd yr Athro Syr Malcolm Evans yn aelod o'r statudol i'r ymchwiliad i gam-drin rhywiol plant (IICSA), ymchwiliodd i gam-drin plant yn rhywiol mewn ysgolion, eglwysi, pleidiau gwleidyddol, grwpiau crefyddol a chartrefi plant, gan wneud cyfres o argymhellion.
Er nad oes sôn am gam-drin plant yn benodol yng Nghadeirlan Bangor, mae Syr Malcolm yn poeni am y sefyllfa yno.
Dywed ei bod "o ddiddordeb i bawb i gael tryloywder llwyr" a'i bod hi'n "siomedig" mai crynodebau yn unig sydd wedi eu cyhoeddi.
"Un o argymhellion allweddol IICSA oedd y dylai archwiliadau ddigwydd a chael eu cyhoeddi," meddai.
Dywed i IICSA weld arferion da o fewn i'r Eglwys yng Nghymru ar lefel genedlaethol, a'i bod yn "destun tristwch" nad yw hynny i weld wedi digwydd yng Nghadeirlan Bangor.
"Mae'r rhain yn bethau sydd wir yn cadw pobl yn ddiogel dros amser," meddai.
"Ar yr wyneb, ymddengys bod rhywbeth difrifol wedi mynd o'i le o ran trosglwyddo polisïau'r Eglwys ar lefel genedlaethol i'r hyn sydd yn digwydd ar y ddaear."
Derbyniodd yr Eglwys yng Nghymru argymhellion IICSA ar y pryd, gan ddweud bod ganddyn nhw system genedlaethol diogelu a rheoli achosion, gan ddweud y byddai staff priodol yn derbyn hyfforddiant yn unol â'u cyngor gweithredu.
O ran Cadeirlan Bangor, maen nhw'n dweud bod sefydlu'r grŵp gweithredu a'r bwrdd goruchwylio yn dangos bod y mesurau y cytunwyd arnynt o ganlyniad i adroddiad IICSA yn cael eu dilyn, a bod yr ymrwymiad i'r safonau uchaf o ddiogelu, llywodraethu ac ymddygiad yn cael eu cynnal.
'Symud ymlaen ar frys'
Dywedodd y Parchedig David Parry, Cadeirydd Cabidwl Eglwys Gadeiriol Bangor, sydd yn gweithredu fel corff ymddiriedolwyr, eu bod nhw'n croesawu argymhellion yr adroddiadau ac "wedi ymrwymo i'w symud ymlaen fel mater o frys".
Dywedodd bod ganddynt "hyder llwyr yn y broses gadarn y mae'r Archesgob wedi'i chychwyn" a'u bod am sicrhau y bydd gweithredoedd y Grŵp Gweithredu a'r Bwrdd Goruchwylio yn arwain at ddatrys y materion a nodwyd yn yr adroddiadau.