/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Anfon swyddogion arfog i ddigwyddiad mewn ysgol yn y gogledd

Ysgol Uwchradd Y Rhyl
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn Ysgol Uwchradd y Rhyl am 15:00 brynhawn Iau

  • Cyhoeddwyd

Fe gafodd nifer o swyddogion heddlu - rhai yn arfog - eu galw i ddigwyddiad mewn ysgol yn Sir Ddinbych brynhawn Iau.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r Gogledd iddyn nhw gael eu galw i ddigwyddiad yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl am 15:00 yn dilyn adroddiadau o anhrefn.

Oherwydd cynifer o bobl oedd yn rhan o'r digwyddiad, fe gafodd nifer o blismyn eu hanfon yno, gan gynnwys swyddogion arfog oedd yn yr ardal ar y pryd.

Yn eu datganiad, dywedodd yr heddlu: "Rydym yn deall y gallai fod nifer o bobl yn y gymuned wedi gweld y swyddogion a gynorthwyodd eu cydweithwyr i ddod â'r digwyddiad i ben yn ddiogel, ond hoffem sicrhau'r cyhoedd na chafodd y swyddogion yna eu defnyddio yn eu swyddogaeth fel heddlu arfog, a doedd ganddyn nhw ddim yr awdurdod i ddefnyddio eu harfau."

Pynciau cysylltiedig