Cyhoeddi enillwyr gwobrau newydd yr Urdd a'r Coleg Cerdd a Drama

- Cyhoeddwyd
Ar ddiwedd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro 2025 mae Urdd Gobaith Cymru wedi diolch i ranbarth Gorllewin Morgannwg am estyn croeso cynnes i'r miloedd a wnaeth heidio i fwynhau a chystadlu ar faes prifwyl ieuenctid Cymru.
Eleni fe wnaeth mwy nag erioed gystadlu (119,593) mewn dros 400 o gystadlaethau ac roedd yna gynnydd sylweddol (42%) yn y nifer o ddysgwyr Cymraeg ifanc a wnaeth gymryd rhan yn yr ŵyl o gymharu â llynedd.
Enillwyr y gwobrau newydd
Nos Sadwrn cyhoeddwyd mai Erin Fflur Jardine o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd sy'n derbyn Ysgoloriaeth yr Eisteddfod eleni – ysgoloriaeth sy'n wobr i'r cystadleuwyr mwyaf addawol yn yr oedran blwyddyn 10 a dan 19 oed.
Roedd Erin yn fuddugol ar yr Unawd Telyn a'r Unawd Piano, yn aelod o gôr merched a chôr gwerin ac yn cyfeilio i Gôr Merched Plas Taf ac i'w brawd yn yr Unawd Pres.
Enillwyr gwobrau newydd yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw:
Ffion Mair Thomas (Gwobr Syr Bryn Terfel, lleisiol)
Ioan Williams (Gwobr Amy Dowden, dawns)
Beca Fflur Morris (Gwobr Callum Scott Howells, sioe gerdd)
Ffred Hayes (Gwobr Matthew Rhys, theatr a llefaru)
Jencyn Ainsley Corp (Gwobr Rakhi Singh, offerynnol)
Laurie Thomas (Gwobr Sarah Hemsley-Cole, cefn llwyfan)

Meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: "Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i bwyllgor gwaith a phobl ardal Dur a Môr am eu brwdfrydedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac am estyn cystal groeso i'r ŵyl.
"Diolch i filoedd o athrawon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ledled Cymru am eu gwaith diflino ac am alluogi mwy nag erioed o blant a phobl ifanc i gael cyfleoedd amhrisiadwy drwy'r Urdd.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'n noddwyr a'n partneriaid am eu cefnogaeth parhaus.
"Mae sicrhau cyfleoedd a phrofiadau celfyddydol yn hanfodol i lwyddiant a gwaddol ein gŵyl ieuenctid a dwi mor hapus bod mwy nag erioed o ddysgwyr Cymraeg wedi cymryd rhan eleni.
"Cawn edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn llawn hyder."

Mewn ymateb i'r cynnydd yn y niferoedd sy'n cofrestru i gystadlu ynghyd â cheisiadau am fwy o gystadlaethau bydd Eisteddfod yr Urdd yn 2026 yn ymestyn i ŵyl saith diwrnod .
Felly bydd Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 yn cael ei chynnal rhwng dydd Sadwrn, 23 a Gwener 29 Mai 2026.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl