/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Siom bod gwasanaeth sy'n delio â stigma iechyd meddwl yn dod i ben

Ffion Connick
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Connick, 23, wedi dioddef gyda heriau iechyd meddwl ers yn ifanc

  • Cyhoeddwyd

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ariannu gwasanaeth iechyd meddwl yn "achos pryder sylweddol", yn ôl elusen.

Mae Adferiad, elusen iechyd meddwl flaenllaw, yn rhybuddio bod hynny'n "risg enfawr" i iechyd pobl.

Nod gwasanaeth Amser i Newid Cymru ydy mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl gan annog pobl i drafod eu teimladau a'u profiadau.

Yn ôl y llywodraeth, dydi eu hymrwymiad i fynd i'r afael â stigma sydd ynghlwm â iechyd meddwl heb newid.

Cafodd y gwasanaeth ei lansio yn 2012 ac yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn rhedeg fel partneriaeth rhwng elusennau iechyd meddwl Mind Cymru ac Adferiad.

Bydd yn dod i ben ddiwedd y mis gan nad yw wedi "sicrhau cyllid parhaol y tu hwnt i'r cyfnod presennol hwn".

Mae Ffion Connick, 23 o Rydaman, wedi dioddef gyda heriau iechyd meddwl ers yn ifanc, gan gynnwys gorbryder ac anhwylder bwyta.

"Mae'n dorcalonnus," meddai.

"Wythnos yma ni'n cofio pum mlynedd ers dechrau Covid ac un o'r sgil effeithiau mwyaf sydd wedi dod allan o hwnna yw pandemig newydd o broblemau iechyd meddwl… ble mae'r synnwyr yn cael gwared ar raglen fel yma pan mae eisiau hyn arnom ni yn fwy nag erioed">