'Gwleidyddiaeth angen denu mwy o gefndir lleiafrifol ethnig'

Mae Bowen Cole o Senedd Ieuenctid Cymru yn dweud fod angen gofyn pam nad oes mwy o wleidyddion o gefndir lleiafrifol ethnig
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw o’r newydd ar bleidiau gwleidyddol a'r llywodraeth i wneud mwy i ddenu pobl o gefndir lleiafrifol ethnig i wleidyddiaeth, ar lefel lleol a chenedlaethol.
Daw’r alwad gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol ar Fis Hanes Pobl Ddu.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd ei Bil Etholiadau Newydd yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr er mwyn cynyddu amrywiaeth aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig fe ddylid dewis ymgeiswyr "ar sail eu gallu ac nid ar sail eu rhyw, hil neu nodwedd warchodedig arall".
Mae gweddill y pleidiau hefyd wedi cael cais am ymateb.