/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cymru'n 'rhy soft' ar ymddygiad gwael plant ysgol

Disgrifiad,

'Dim nonsens': Y prifathro sy'n y penawdau am ddisgyblu plant

  • Cyhoeddwyd

Daeth Alun Ebenezer i Ysgol Cil-y-coed ym Mehefin 2024 wedi cyfnod anodd welodd staff yn streicio dros ymddygiad disgyblion - aeth ati'n syth i "gryfhau" disgyblaeth.

I ddechrau, gweithredu rheolau gwisg ysgol yn llym ddenodd sylw, ac yn fwy diweddar mae polisi o gadw plant yn yr ysgol ar ddydd Sadwrn fel cosb wedi bod yn y penawdau.

Mae'n credu bod Cymru yn "rhy soft" wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwael ac yn "cuddio" tu ôl i eiriau fel 'llesiant'.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn datblygu cynigion i wella ymddygiad, a byddai uwchgynhadledd arbennig ar y pwnc yn y gwanwyn.

Roedd gan Alun Ebenezer enw am gymryd agwedd gadarn at ddisgyblaeth pan gafodd gais i ddod i'r ysgol yn Sir Fynwy sydd â 1,300 o ddisgyblion.

"O'dd ymddygiad y plant ddim yn dda o gwbl", meddai.

"Y rheswm am hynny oedd roedden nhw'n gallu get away with it – 'na beth oedd y broblem."

Dyn yn edrych at y camera gyda'i freichiau wedi plygu yn sefyll o flaen arwydd sy'n dweud 'Welcome to Caldicot School'
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Ebenezer yn dweud bod ei agwedd at ymddygiad yn un ble mae "na yn golygu na"

Dywedodd bod ei "safonau llym" wedi dechrau cael effaith o fewn diwrnodau.

"Mae hwnna'n dweud wrtha i bod y plant fan hyn yn eitha da a ma' nhw moyn strict discipline, firm boundaries."

Dywedodd, i ddechrau, nad oedd wedi cyflwyno polisïau newydd - dim ond gweithredu'r rheolau gwisg ysgol oedd mewn lle yn barod.

Arweiniodd hynny at honiadau bod dwsinau o blant wedi cael eu cosbi am beidio dilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo sgertiau oedd yn rhy fyr.

"Fi'n meddwl bod y pethau bach yn bwysig", meddai.

"Os ti'n edrych ar ôl y pethau bach, bydd y pethau mawr yn sortio'u hunain mas."

Staff yn sefyll yn nerbynfa'r ysgol wrth i lawer o ddisgyblion gerdded heibio
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm rheoli'r ysgol yn croesawu'r disgyblion i'r ysgol bob bore gan sicrhau bod y wisg ysgol yn gywir

Ers mis Medi mae'n dweud ei fod wedi cyflwyno polisïau newydd ar ôl ymgynghori.

Un yw gwahodd rhieni mewn i wersi gyda'u plentyn os yw'r disgybl wedi camymddwyn.

"Os ti'n chwarae o gwmpas yn mathemateg a mae Mam yn eistedd bwys fi yn y wers nesaf – that's effective".

'Cuddio tu ôl well-being, safe spaces'

Mae yna hefyd bolisi o gadw plant ar ôl ysgol os ydyn nhw wedi camymddwyn yn ystod y dydd - y cam nesaf yw dod i mewn ar benwythnos.

Ond mae'n dweud ei fod wedi cael deall bod angen 24 awr o rybudd ar rieni cyn cadw plentyn yn yr ysgol dan y gyfraith yng Nghymru, sy'n wahanol i'r rheol yn Lloegr.

Mae'n credu bod hynny'n "hurt" ac yn mae'n feirniadol o'r agwedd tuag at ddisgyblaeth yng Nghymru.

Mae'n dweud bod ymddygiad yn "bendant wedi gwaethygu" a bod yn rhaid i'r llywodraeth fod yn fwy cadarn - "mae'n rhaid iddyn nhw sortio fe mas".

"Ni'n cuddio tu nôl i bethau fel well-being, safe spaces", meddai, gan ychwanegu nad yw'r ffocws yna'n gweithio.

"Mae'n rhaid i chi ofyn y cwestiwn pam dyw pobl ddim yn teimlo'n saff, pam y'n nhw ddim yn teimlo'n hapus">