/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Rhieni 'wedi blino' â sylwadau ansensitif am Syndrom Down

CelynFfynhonnell y llun, Rosebuds Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Celyn yn fabi hapus un oed sydd â Syndrom Down

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni'n galw ar y cyhoedd a gweithwyr iechyd i gael gwell dealltwriaeth o'r iaith maen nhw'n ei ddefnyddio wrth gyfeirio at bobl â Syndrom Down.

Mae gan Rhydian a Jamie Fitter o Aberystwyth fab blwydd oed, Celyn, sydd â Syndrom Down.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi blino ar glywed pobl yn defnyddio’r derminoleg anghywir.

Mae Hydref yn fis codi ymwybyddiaeth Syndrom Down, ac mae 'na alwadau ar i bobl fod yn fwy gofalus a sensitif.

Mae'r Gymdeithas Syndrom Down yn dweud ei bod yn bwysig i bobl roi’r person yn gyntaf, yn hytrach na’r cyflwr.

Rhydian a Jamie
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhydian a Jamie eu bod wedi blino gyda phobl yn defnyddio iaith ansensitif

Dywedodd Rhydian Fitter: "Mae ambell berson sy'n defnyddio iaith, er enghraifft, yn galw fe'n 'Downs baby' - dweud 'Downs babies are so cute' neu bethau fel 'na.

"Stereoteips, a rhoi'r Syndrom Down o flaen fe fel person, fel unigolyn. Mae'n blino ni.

“Ni hefyd wedi cael pobl yn dod i fyny i’r pram a dweud bod e ddim yn edrych fel ei fod efo Syndrom Down. Mae hwnna’n rili weindio fi lan.”

CelynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwpl brofiad “gwych” yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Bronglais

Doedd y cwpl ddim yn ymwybodol fod gan Celyn Syndrom Down gan nad oedden nhw wedi cymryd y prawf sgrinio pan oedd Jamie yn feichiog.

Dywedodd Mrs Fitter: “Bydde fe ddim wedi newid yr outcome i ni oherwydd byddwn ni wedi cadw fe anyway oherwydd babi bach ni yw e."

Cafodd y ddau brofiad “gwych” yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

“O'dd y midwives a doctors yn rili positif gyda ni, o'dd e'n ystafell hapus,” meddai Mrs Fitter.

Ychwanegodd Mr Fitter: “'Dan ni’n lwcus, roedd un o’r bydwragedd ar yr uned efo plentyn sydd â Syndrom Down ac mae hi wedi addysgu pawb, o'dd nhw gyd wedi gweld Celyn fel Celyn."

Jamie
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jamie Fitter ei bod wedi cael sioc o glywed nyrs yn gofyn "beth arall sy'n bod" gyda'i mab

Ond ers gadael yr ysbyty dyw eu profiad gyda phob gweithiwr iechyd ddim wedi bod yn bositif.

Dywedodd Mrs Fitter: “Wythnos diwethaf, roedd nyrs preifat wedi dweud wrthon ni ‘so apart from Down Syndrome and his heart, what else is wrong with him">