/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cannoedd yn mentro i'r môr yn Ninbych-y-Pysgod

tenbyFfynhonnell y llun, Lawrence Hourahane
Disgrifiad o’r llun,

Thema'r wisg ffansi ar gyfer eleni oedd Archarwyr a hynny fel teyrnged i weithwyr bad achub yr RNLI

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth nifer fentro i ddŵr oer y môr yn Ninbych-y-pysgod fore Iau - un o draddodiadau Gŵyl San Steffan yr ardal.

Trefnir y digwyddiad gan Gymdeithas Nofio Môr Dinbych-y-pysgod, ac mae wedi dod yn un o uchafbwyntiau Nadoligaidd Cymru dros y blynyddoedd gan gychwyn dros hanner can mlynedd yn ôl.

Dros y blynyddoedd, mae wedi codi miloedd ar gyfer elusennau ac achosion da lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae poblogrwydd y digwyddiad yn parhau i dyfu wrth i gannoedd redeg i'r môr.

Thema'r wisg ffansi ar gyfer eleni oedd Archarwyr a hynny fel teyrnged i weithwyr bad achub yr RNLI - sefydliad sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 200 oed.

Hapusrwydd yn Ninbych-y-pysgod fore IauFfynhonnell y llun, Gareth Davies photography
Disgrifiad o’r llun,

Hapusrwydd yn Ninbych-y-pysgod fore Iau

Roedd y digwyddiad eleni yn un arbennig iawn i un cwpwl wrth iddyn nhw ddyweddïo ar y traeth yn Sir Benfro.

O flaen cannoedd fe ofynnodd Philip Frith, 34, i Victoria Tansey, 37, i'w briodi.

Pynciau cysylltiedig