/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dyn, 33, yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dynes yn Abertawe

Matthew Battenbough yn cael ei hebrwng i Lys Ynadon Abertawe gan swyddog.
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Matthew Battenbough yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 33 oed wedi ymddangos o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddio Leanne Williams yn Abertawe ddiwedd Chwefror.

Dim ond cadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni wnaeth Matthew Battenbough mewn gwrandawiad yn llys ynadon y ddinas a barodd pum munud.

Cafwyd plismyn o hyd i Ms Williams, 47, yn ei chartref ar Ffordd Gomer yn Townhill am oddeutu 14:00 ddydd Iau 27 Chwefror.

Nododd archwiliad post-mortem bod ganddi anafiadau sylweddol i'w chorff.

Fe gafodd Mr Battenbough ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.

Leanne WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Leanne Williams ei chanfod yn farw ar 27 Chwefror

Cyn y gwrandawiad, dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark O'Shea: "Rydym yn dal i olrhain symudiadau diwethaf Leanne o 18:00 ddydd Llun, 24 Chwefror hyd at 14:20 ddydd Iau pan ddaeth swyddogion o hyd iddi.

"Gofynnir i unrhyw un sy'n byw neu sydd wedi teithio ar hyd Ffordd Gomer neu'r ardaloedd cyfagos yn ystod y cyfnod hwn wirio eu camerâu cylch cyfyng neu gamera dashfwrdd am unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol.

"Nid oes ots pa mor ddi-nod y gall y wybodaeth ymddangos. Rydym am glywed yn arbennig gan bobl a oedd yn adnabod Leanne ac nad ydynt wedi siarad â swyddogion eto."

Yn y cyfamser mae dyn 41 oed a gafodd ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad wedi ei ryddhau.