/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

'Fe fyddwn ni yn yr ysbyty eto dros y Nadolig'

Ivy-Mae
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ivy-Mae wedi cael 17 llawdriniaeth ers iddi gael ei geni ddwy flynedd a hanner yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Wrth i lawer o bobl ddod at ei gilydd a dathlu'r Nadolig, bydd rhai teuluoedd yn treulio'r ŵyl mewn ysbyty.

Ers cael ei geni mae merch fach Brooke a Corey, Ivy-Mae, wedi cael gofal cyson yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd.

Am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwnnw, mae adeilad arbennig ar safle'r ysbyty wedi bod yn gartref i'r teulu.

Unwaith eto eleni, byddan nhw'n treulio'r Nadolig yn Nhŷ Ronald McDonald ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

"Dydyn ni heb addurno ein tŷ ni gydag addurniadau Nadolig," meddai Brooke Bonnett.

"Bydd Ivy yn yr ysbyty, felly be' yw'r pwynt">