'Amhosib trafod cyfrif ffrind anabl gyda banc dideimlad'

Cafodd cerbyn debyd Anthony Hawkins ei rewi gan Santander ym mis Awst
- Cyhoeddwyd
Mae ffrind i ddyn anabl o Geredigion wedi beirniadu banc Santander yn hallt ar ôl atal defnydd ei gerdyn a'i adael heb fynediad i arian ei gyfrif ers canol Awst.
Fe gysylltodd y cyn-arolygydd David Morgan gyda'r banc ar ôl i'w ffrind, Anthony Hawkins, 59, o Landysul ddangos iddo bod dros £2,000 wedi gadael ei gyfrif heb ganiatâd.
Cafodd cerdyn debyd Mr Hawkins ei rewi gan Santander ym mis Awst, a oedd yn golygu nad oedd ganddo fodd o dalu am bethau hanfodol fel bwyd a nwyddau glendid, tra bod y banc yn ymchwilio.
Mae Santander wedi dweud ei bod nhw'n "adolygu'r opsiynau cymorth cywir" ar gyfer eu cwsmer.
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019
Mae Mr Hawkins yn defnyddio cadair olwyn oherwydd problemau difrifol gyda'i gefn, ac mae ond yn medru dweud ychydig eiriau ar ôl cael sawl strôc.
Yn gyn-blismon yn Jersey, cafodd Mr Hawkins Fedal Ymerodraeth Prydain am ei waith ymgyrchu dros bobl anabl yn 2018.
Fe ddaeth ei ffrind, David Morgan, 72 oed, i wybod am y problemau gyda'i fanc am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf.
"Fe ddangosodd Tony wrtha' i ar ei ffôn symudol bod arian yn cael gadael ei gyfrif.
"Fe gadarnhaodd nad oedd wedi rhoi caniatâd i arian adael ei gyfrif. Gofynnais iddo, 'a wyt ti'n hollol sicr">