Plaid Cymru'n gwneud enillion ar Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
Ar Ynys Môn mae Plaid Cymru wedi gwneud enillion pellach ar ochr orllewinol y sir.
Mae dau gynghorydd annibynnol adnabyddus - Bryan Owen a Peter Rogers - wedi colli eu seddi yn ward Bro Aberffraw i Blaid Cymru.
Y cynghorwyr newydd yno fydd John Ifan Jones, a'r cerddor (a seren Cân i Gymru) Arfon Wyn.
Gyda chwe ward eto i gyhoeddi, y canlyniadau ydy:
- Plaid Cymru - 13 sedd
- Annibynnol - 6
- Llafur - 1
- Democratiaid Rhyddfrydol - 1

Dau gynghorydd newydd Plaid Cymru ym Môn - Arfon Jones a John Ifan Jones