/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Brwydro rhwystrau er mwyn cael artist anabl i frig y siartiau

  • Cyhoeddwyd
RightkeysonlyFfynhonnell y llun, Sound Progression

Mae'r artist o Aberdâr, Rightkeysonly, yn gerddor llwyddiannus. Mae hi hefyd yn anabl ac yn niwrowahanol.

Ond anaml welwch chi artist anabl ar frig y siartau - rhywbeth mae hi'n benderfynol o'i newid, drwy wthio'r ffiniau ac addysgu eraill er mwyn gwneud y diwydiant cerddoriaeth yn un mwy croesawgar i artistiaid ag anableddau.

'Ddim yn gerddor go iawn...'

Er mai dim ond ers blwyddyn mae Rightkeysonly wedi bod yn gweithio fel cerddor llawn amser, mae 'Keys' wedi taflu ei hun i mewn i'r maes gydag arddeliad, a hynny yn dilyn sylw annifyr amdani yn ystod noson meic agored, eglurai:

"Dwi'n cofio'r cyflwynydd yn dweud 'mae gyda ni gerddorion anhygoel yma heno, a chanwr... ond ni gyd yn gwybod fod cantorion ddim yn gerddorion go iawn...'. Amdana i o'dd e'n siarad, jest cyn i mi fynd ar y llwyfan.

"Mae fy mraich chwith wedi ei lled-barlysu ers i mi gael fy ngeni, oherwydd fod gen i Barlys Erb ochr chwith (Left Erb's Palsy), felly dydw i ddim wastad wedi bod â'r gallu i ddysgu offeryn.

"Roedd clywed rhywbeth fel yna yn fy ngwthio i 'mlaen: 'Iawn, rhaid i mi ddysgu sut i bîtbocsio - i ddangos y galli di wneud cerddoriaeth gyda dim ond dy geg - i gynhyrchu...' 'Nes i dreulio pob dydd yn e-bostio, ffonio, mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio, unrhyw sefydliad o'n i'n gallu dod o hyd iddo yn holi 'beth allwch chi ei gynnig i mi? Beth alla i ei ddysgu? Beth alla i ei wneud">